Ces i a'r gŵr ginio Diwrnod Diolchgarwch ar ein pennau hunain heb y plant am y tro cyntaf. (Mae'r pedair yn byw tramor, ac aeth y mab ifancaf at dŷ ei frawd yn Texas.) O ganlyniad, dyma goginio cinio Diwrnod Diolchgarwch hawsaf gan brynu tafellau o frest twrci parod (gyda grefi.) Dim ond rostio llysiau, a pharatoi tatws stwns o flwch wnes i. A phastai cnau bach parod i'r gŵr a gwydraid o win i mi. Roedd yn ginio hynod o braf.
Friday, November 28, 2025
Thursday, November 27, 2025
diwrnod diolchgarwch
Beth ydy ofn mwyaf pawb? Ofn marwolaeth, byddwn i'n dweud. Byddai pawb yn rhoi popeth er mwyn byw. Mae'r Beibl yn galw hyn yn gaethiwed. Rhyddhaodd Duw ni, fodd bynnag, rhag y caethiwed hwn drwy Iesu. Concrodd o farwolaeth. Ni fydd yn rhaid i chi ofni marwolaeth os byddwch chi'n credu ynddo.
Diolch i ti, yr Arglwydd, am ryddhau ni rhag yr ofn hwn.
Wednesday, November 26, 2025
y rhesm
Beth mae'r Beibl yn dweud?
"Peidiwch ag anghofio'r un peth hwn, fod un diwrnod yng ngolwg yr Arglwydd fel mil o flynyddoedd, a mil o flynyddoedd fel un diwrnod."
"Mae'r Arglwydd yn amyneddgar wrthych y mae, am nad yw'n ewyllysio i neb gael ei ddinistrio, ond i bawb ddod i edifeirwch."
Tuesday, November 25, 2025
tra bydd yn agos
Nad ydych chi'n gwybod pryd fyddwch chi'n marw. Efallai mewn blynyddoedd, efallai yfory. Ac felly,
"Ceisiwch yr Arglwydd tra gellir ei gael; galwch arno tra bydd yn agos." Eseia 55:6
Peidiwch â gohirio.
Sunday, November 23, 2025
y drefn yn y bydysawd
"Na fydd trefn byth yn tarddu o anhrefn. Na fydd harddwch byth yn ysgrifennu ei hun. Mae angen Dylunydd ar ddyluniad." - Biblical Creation
Saturday, November 22, 2025
cwpan yr ymerawdwr
Roedd y gêm derfynol rhwng tîm o Kobe ac un o Machida. Roeddwn i a'r teulu mewn penbleth cyn y gêm. Nad oedden ni'n gwybod pa un dylen ni gefnogi oherwydd pan oedden ni'n byw yn Japan, oedden ni'n byw yn y ddwy ddinas. Enillodd Machida o dair i un. Llongyfarchiadau iddyn nhw beth bynnag!
Friday, November 21, 2025
y mae gofal ganddo amdanoch
Un o fy hoff adnodau ydy hon. Er bod cynifer o bobl dros y byd yn galw arno fo drwy'r amser, mae o'n clywed eu gweddïau, ac yn gofalu amdanyn nhw. Mae hyn yn anhygoel, tu hwnt i'r ddealltwriaeth. Mae'n wir, fodd bynnag oherwydd bod y Beibl yn dweud felly.
Wednesday, November 19, 2025
sut i fod yn ddoeth
Peidiwch â bod yn ynfyd. Mae modd i fod yn ddoeth -
"Ofn yr Arglwydd yw dechrau doethineb,
ac adnabod y Sanctaidd yw deall." Diarhebion 9:1
Beth ydy ofn Duw? Mae'n golygu ei barchu, ei ufuddhau, a'i addoli mewn parch.
Tuesday, November 18, 2025
stori teulu taira
"Na fydd ffyniant y balch yn para'n hir, fel breuddwyd ar noson wanwyn.
Llinellau eithaf gwahanol, fodd bynnag, a fydd yn dilyn yn y Beibl:
“Y mae pob un meidrol fel glaswellt,
a'i holl ogoniant fel blodeuyn y maes.
Y mae'r glaswellt yn crino,
a'r blodeuyn yn syrthio,
ond y mae gair yr Arglwydd yn aros am byth.”
1 Pedr 1:24, 25
Monday, November 17, 2025
sut i gael maddeuant
Delw'r Duw anweledig ydy Iesu, a Mab Duw hefyd ar yr un pryd. Fo ydy'r unig ffordd dan y nef i ni gael maddeuant ein pechodau ni. (Dim fi sydd yn dweud, ond Duw.)
"Os cyffesi Iesu yn Arglwydd â'th enau, a chredu yn dy galon fod Duw wedi ei gyfodi ef oddi wrth y meirw, cei dy achub." Rhufeiniaid 10:9
Sunday, November 16, 2025
marw un waith
"Yn union fel mae pawb yn mynd i farw un waith, a wynebu barn ar ôl hynny, buodd y Meseia (Iesu Grist) farw un waith yn aberth, a chario pechodau llawer iawn o bobl iddyn nhw gael eu maddau. A bydd yn dod yn ôl yr ail waith, dim i ddelio gyda phechod y tro hwn, ond i achub pawb sy’n disgwyl yn frwd amdano." Hebreaid 9:27, 28 Beibl.net
Saturday, November 15, 2025
trydan
Dechreuodd diwrnod yn braf a llawn o heulwen. Yna, collon ni drydan yn hollol ddirybudd. Roedd rhaid i fi a'r gŵr baratoi am heddiw mewn hanner tywylloch. Roedd llinell ffôn y cwmni trydan yn brysur. Wedi brecwast, aeth y gŵr i waith, ac es i am dro, glanhau'r llawr a'r bath. Tra oeddwn i wrthi felly, cawson ni drydan yn ôl. Gweiddais, "diolch i ti, yr Arglwydd, a'r dynion trwsio!" Ceir trydan ei gymryd yn ganiataol nes i chi ei golli.
Wednesday, November 12, 2025
edrych ymlaen
Dw i'n edrych ymlaen at hyn yn fawr iawn.
Tuesday, November 11, 2025
diwrnod y cyn-filwyr o safbwynt cyn-filwr
Monday, November 10, 2025
yn barod unrhyw bryd
Dw i'n cytuno â Paul yn llwyr. Y gwahaniaeth, fodd bynnag ydy nad oes cyfyng arna' i fel fo. Mae'r plant i gyd wedi gadael cartref ac mae pob un ohonyn nhw'n rhodio'n ffyddlon gydag Iesu Grist. Dw i'n barod i ymadael y byd yma a bod gyda fy Arglwydd unrhyw bryd.
Saturday, November 8, 2025
cyfrif ein dyddiau
"Deng mlynedd a thrigain yw blynyddoedd ein heinioes,
neu efallai bedwar ugain trwy gryfder,
ond y mae eu hyd yn faich ac yn flinder;
ânt heibio yn fuan, ac ehedwn ymaith.
Pwy sy'n gwybod grym dy ddicter,
a'th ddigofaint, fel y rhai sy'n dy ofni?
Felly dysg ni i gyfrif ein dyddiau,
inni gael calon ddoeth." Salmau 90:10 - 12
Wednesday, November 5, 2025
rhydd mewn gwirionedd
Ond dwedodd Iesu, "mae pob un sy'n cyflawni pechod yn gaethwas i bechod." Ioan 8:34
Yna, efallai y byddwch chi'n gofyn, "sut alla i fod yn rhydd felly?"
Dyma'r ateb gan Iesu: “Os arhoswch chwi yn fy ngair i.... cewch wybod y gwirionedd, a bydd y gwirionedd yn eich rhyddhau." Ioan 8:31
"Os yw'r Mab (Iesu) yn eich rhyddhau chwi, byddwch yn rhydd mewn gwirionedd." Ioan 8:36
Tuesday, November 4, 2025
cuddio eu hunain fel palesteiniaid
"Mae'r Cristnogion yn Nigeria yn cuddio eu hunain fel Palesteiniaid fel y bydd pobl yn bwrw sylw ar yr hil-ladd yn eu herbyn."
Yn llygad ei le unwaith eto, y Wenynen. Nid dim ond yn Nigeria, ond mae miliynau o Gristnogion dros y byd yn cael eu llofruddio a'u herlid yn erchyll bob dydd. Ac eto dydy'r prif gyfryngau a dylanwadwyr cyfryngau cymdeithasol byth yn rhoi sylw arnyn nhw. Efallai mai syniad da i ddefnyddio i'r dioddefwyr i gyd wedi'r cwbl.
Monday, November 3, 2025
rhrannu ei dir
Mae Jwda a Jerwsalem yn perthyn i Israel. Calon eu tir ydyn nhw lle mae cynifer o bethau a ysgrifennwyd yn y Beibl wedi digwydd. Dydy Duw ddim yn hapus gyda'r bobl sydd yn dwyn a rhannu'r tir a roddodd i bobl Israel, fel dwedodd yn yr Ysgrythur:
pan adferaf lwyddiant Jwda a Jerwsalem,
fe gasglaf yr holl genhedloedd
a'u dwyn i ddyffryn Jehosaffat,
a mynd i farn â hwy yno
ynglŷn â'm pobl a'm hetifeddiaeth, Israel,
am iddynt eu gwasgaru ymysg y cenhedloedd
Saturday, November 1, 2025
y peth pwysicaf
Er bod fy mam (103) yn Japan yn anhygoel o iach yn ei chorf, mae ei dementia yn gwaethygu’n gyflym yn ddiweddar. Mae'n ymddangos ei bod hi wedi anghofio llawer o bethau a phwy ydy pwy. Dw i'n gobeithio a gweddïo bob dydd y bydd hi'n cofio'r un peth pwysicaf, sef beth wnaeth Iesu Grist drosti.