Thursday, June 26, 2008

stafell fach


Mi fasai hi'n rhy ddrud i'r gwr a'r mab aros mewn gwesty am ddwy wythnos. Felly maen nhw'n aros mewn hostel ieuenctid yn Yokohama. Bach bach bach ydy eu stafell nhw. Dim ond pedwar mat "tatami" i gyd ynddi hi. (6 x 3 troedfedd ydy un mat.) Ac stafell dwbl ydy hi! Mae eu pennau a'u traed yn cyffwrdd y waliau pan orweddith i gysgu!

Ond yn ôl y gwr a'r mab, mae popeth yn lan ac mae'r parchennog yn gyfeillgar. Mae 'na stafell golchi yn yr adeilad a nifer mawr o siopau ym mhob man. Yn anad dim mae gynnyn nhw gysylltuad rhyngrwyd cyflym iawn. Dw i'n siwr cân nhw amser da yn Japan beth bynnag. Mi fydd gan y mab rhywbeth diddorol i adrodd yn facebook o leia.

2 comments:

asuka said...

diolch am y llun - rwy 'di aros mewn lleoedd cyn lleied a hwn'na (cysgon ni mewn closed dillad mewn hostel "answyddogol" y tro cyntaf inni ymweld ag efrog newydd!), ond erioed 'di gweld stafell oedd cyn lleied a chyn neisied ar yr un pryd!

Emma Reese said...

Y broblem yn Japan ydy bod 'na ddim digon o le achos mai mor fach ydy'r tir lle mae'r rhan fwya o'r bobl yn byw. Felly maen nhw'n ceisio gwneud eu gorau glas efo'r hyn sy ar gael.