Tuesday, February 24, 2009

rhwystredigaeth

Dw i'n dal i ddarllen Traed Mewn Cyffion. Mae'r nofel ma'n llawer mwy anodd na Te yn y Grug. Mae gen i gyfieithiad Saesneg ac mae rhaid i mi edrych arno'n aml. Dw i wedi sylweddoli bod y cyfieithydd ddim wedi cyfieithu popeth. Sgen i ddim crefft cyfieithu wrth gwrs ond dw i ddim eisiau gweld brawddegau a chymalau gwreiddiol cael eu gadael heb gael eu cyfieithu. e.e.

Yn y trên, eisteddai Wiliam a'i law dan ei ben, a'i brudd-der yn lwmp yn ei frest.
In the train Wiliam sat with his hand under his chin.

Does yna ddim sôn am 'brudd-der yn lwmp yn ei frest' yn y fersiwn Saesneg. Mae'r cymal yma'n bwysig er fod o'n fyr. Mae yna enghraifftiau eraill tebyg drwy'r llyfr. O, wel, does na ddim byd i'w wneud amdanyn nhw ond roedd rhaid i mi gael dweud hyn i ysgafnhau fy rhwystredigaeth.




1 comment:

Corndolly said...

Dw i'n gallu deall dy rwystredigaeth. Fel rwyt ti'n gwybod wrth i mi ddysgu bod yn gyfieithydd, mae'n rhaid i mi cyfieithu popeth a ysgrifennodd yr awdur ac yn cadw'r ystyr yn glir. Heb yr ail ran, mae'r frawddeg yn golli llawer.