Mae un o'r merched yn teithio yn Peru ar hyn o bryd. Mae hi'n cael amser gwych yn gweld rhyfeddodau yna a chael ymarfer ei Sbaeneg. Ond beth mae'r bobl leol yn hoffi ei fwyta yno ond...
Moch cwta!!
Maen nhw'n cael eu gweld ym mhob man, mewn tai bwyta a mewn stondinau bwyd ar ochr yr heolydd. Mae fy merch yn gorfod wynebu bwydlenni efo lluniau disgrifiadol bob dydd!
3 comments:
Dôn i ddim yn gwybod hynny chwaith, ond dylwn i fod wedi! Wrth gwrs, mae 'na lawer ohonynt yno ond mae 'na lawer o wiwerod llwyd yma heb fod ar y fwydlen. Well i mi ddweud wrth fy mab cyn iddo fynd.
Mae 'na rai yn bwyta gwiwerod yma hefyd ond mewn cawl a ballu wedi cael eu torri'n fân. Ond mae'r moch cwta truan yn Peru cael eu rostio'n gyfan!
O na ! :(
Post a Comment