Wednesday, October 28, 2009

ddim ar gael yn eich ardal

Ewch i wefan BBC Cymru hon. Dach chi'n gweld y ffeil sain i glywed cyfweliad Ifor ap Glyn? Beth welwn i a'r bobl sy'n byw tu allan i DU ar ôl clicio'r triongl bach ydy hyn:

Ddim ar gael yn eich ardal

(mewn llythrennau gwyn ar gefndir du)

Pam ddim? Peidiwch â dweud bod a wnelo hyn â'r hawlfraint. Cawn ni glywed yr union beth ar Radio Cymru heb broblem.

2 comments:

neil wyn said...

Am beth twp!

Dwi'n cofio darllen rhywbeth am bam nad yw rhaglenni teledu y BBC ar gael tramor (rhywbeth i wneud â'r trwydded teledu os cofiaf yn iawn), ond does dim rhaid cael trwydded teledu i wrando ar raglenni radio y BBC hyd yn oed ym Mhrydain.

Emma Reese said...

Dw i mor falch bod ni'n cael clywed Radio Cymru o leiaf!