Friday, October 23, 2009

ateb arall

Felly pwy sy'n penderfynu'r enwau gorseddol i'r aelodau newydd? Dyna gwestiwn a gododd yn fy mhen wrth i mi wylio'r seremoni yng nghae Eisteddfod y Bala. A dw i newydd gael ateb.

Dw i wrthi'n darllen hunangofiant Trefor Edwards ar hyn o bryd. Un diddorol ydy o, ac yn anad dim, dw i'n deall ei Gymraeg yn dda! Hwyrach y bydda i'n sgrifennu mwy amdano fo ar ôl ei orffen. 

Cafodd o ei ethol yn aelod o'r Orsedd yn Eisteddfod Machynlleth ym 1981 a gofynnwyd iddo anfon hyd at dri enw ar gyfer ei enw gorseddol. Fo a wnaeth ddewis yr enw Trebor o'r Bryniau! Dyna fo! Enw da beth bynnag.

2 comments:

neil wyn said...

Un o ffefrynau fy nhad yw Trebor Edwards, a dwi'n cofio fel plentyn ei lais yn llenwi'r lolfa yn aml iawn ar p'nawniau dydd sul. Mae ei hunangofiant yn swnio fel syniad da ar gyfer anrheg nadolig. Gyda llaw, ddes i o hyd i'r idiom 'yn anad dim' ddoe am y tro cyntaf, y peth nesaf, wnes i weld o ar dy flog di!

Emma Reese said...

Wps, anghofio 'yn' o flaen 'anad' wnais. Diolch i ti Neil. Mi wna i ei gywiro toc.

Doeddwn i ddim yn sylweddoli mai ffermwr ydy Trebor Edwards yn y bôn, ffermwr sy'n medru canu'n broffesiynol. Mae ei hanes yn hynod o ddiddorol. Dw i'n siwr y byddi di wrth dy fodd efo'r llyfr na.