Fedrwn i ddim rhoi'r llyfr i lawr. Roedd rhaid i mi gael gwybod beth fyddai'n mynd i ddigwydd. Sôn am nofel afaelgar! Dw i newydd orffen un o nofelau T.Llew, sef y Gelyn ar y Trên.
Stori am antur hogyn gyda diddordeb mewn trenau ydy hi. Roedd rhaid i Guto fynd i weld y Royal Scotsman a fyddai'n pasio trwy ei dref fach am y tro cyntaf erioed boed yr ysgol neu beidio. Ond beth welodd o drwy ei finociwlars yn ogystal â'r injan trên enwog?
Mae'n ddifyr o'r dudalen gyntaf ymlaen ac mae'r stori'n datblygu'n gyflym dros ben. Ces i fy nharo unwaith a rhagor gan ddawn T.Llew. Ond rhaid dweud bod y stori'n gorffen braidd yn drist. Tybed bod ei brofiad chwerw yn ystod yr Ail Ryfel Byd yn adlewyrchu ynddi hi.
Byswn i'n dweud mai fy ail ffefryn ydy'r nofel 'ma beth bynnag. (Barti Ddu, gyda llaw ydy fy ffefryn cyntaf.)