Tuesday, September 21, 2010

archebu llyfrau

Dw i newydd archebu dau lyfr Cymraeg wedi cael cynnig anhygoel gan Abebooks (cludiant am ddim.) Gwenddydd (nofel fuddugol y Fedal Ryddiaith ddiweddaraf) a Cheffylau'r Cymylau (llyfr i blant) gan Jerry Hunter ydy'r llyfrau. Wedi clywed cymaint o ganmoliaeth gan lawer o bobl gan gynnwys Eifion Glyn, roeddwn i'n meddwl am ddarllen Gwenddydd rywdro. Er mod i'n dal i ddarllen Owain Glyn Dŵr gan R.R.Davies heb sôn am lyfr Cymraeg arall brynais i'n ddiweddar, fedrwn i ddim colli'r fath o gyfle. Cwmni llyfrau yn Ynys Gurnsey sy'n eu gwerthu nhw gyda llaw!

4 comments:

neil wyn said...

gobeithio dy fod ti'n mwynhau llyfr RR Davies, wnes i dwli arno! dwi wedi ymweled a'r wefan ti'n son amdani, well i mi sbio unwaith eto er mwyn trio ffindio bargen hefyd:)

Emma Reese said...

Ydw, diolch. A dweud y gwir, prynes i'r llyfr hwn yn Awen Menai ar ôl darllen dy adolygiad. Doeddwn i ddim yn gwybod bod Glyndŵr wedi achosi cymaint o ddifrodau i'r Cymry hefyd. Mae iaith Davies yn dipyn o her i mi fodd bynnag fel y mae'n rhaid i mi ganolbwyntio'n arw! Basai'n dda gen i weld ffim Cymraeg am Glyndŵr.

Dyma ddolen y bargen:
http://www.abebooks.com/books/free-shipping/?cm_mmc=nl-_-fs-_-100920-f01-usfrshipA-_-01cta
Dw i ddim yn siŵr gewch chi ei gweld hi. Mae'n bosib mai hyrwyddiad y cwmni i gwsmeriaid dethol.

neil wyn said...

diolch am y dolen:) ffindiais cymraeg y llyfr tipyn o her hefyd, er ffindiais fy ffordd trwyddi gyda chwmni cyson y geiriadur mawr!

ti'n llygad dy le, fasa'r testun yn neud ffilm gwerthchweil. rhywdro gobeithio, pwy a wyr!

hwyl, neil

Emma Reese said...

Dw i'n dibynnu ar eiriaduron hefyd, ac eto mae'r llyfr mor ddiddorol dw i'n cael fy nhynnu i mewn i'r hanes cynhyrfus. Oes 'na nofel Gymraeg am Owain G?