Sunday, April 3, 2011

y gwanwyn


Mae'r gwanwyn yma'n swyddogol bellach wedi wythnos o oerni annisgwyl yn ddiweddar. Gyda'r tywydd braf, fodd bynnag, mae'r tymor alergedd wedi dod hefyd. Mae hynny'n golygu mod i'n gorfod osgoi cerdded allan. (A dweud y gwir, dw i'n cerdded mewn canolfan hamdden ers wythnosau.)

Er gwaethaf diflastod y tymor, dw i'n falch bod y gwanwyn yma o'r diwedd oherwydd mod i'n edrych ymlaen at weld y tiwlipau'n blodeuo. Dyma nhw! - a ddau cyntaf o'r deg - yr anrheg gan Leanne o Abertawe. Mae hi'n bwriadu dod yma eto yn yr haf gyda llaw.

2 comments:

Linda said...

Y tiwlips yn edrych yn ddel iawn ...lliw hyfryd hefyd!Newydd ddechrau paratoi cardiau cyfarch ar gyfer sêl yn ein heglwys yn defnyddio lluniau o flodau.
Cofion annwyl atat....

Emma Reese said...

Diolch i ti Linda. Plannais i ddeg. Mae'r rhan fwyaf ohonyn nhw wedi blodeuo bellach.