Wednesday, May 18, 2011

i napolis eto


Y tro hwn es i a'r gŵr i'r tŷ bwyta Eidalaidd yn y dref i ddathlu'n pen-blwydd priodas dipyn yn gynt. Roeddwn i'n edrych ymlaen at gael cyfle i ddefnyddio fy Eidaleg mod i wrthi ers misoedd. Ond ar y llaw arall, roeddwn i'n teimlo'n ofnadwy o nerfus.

Wel, ddaeth gweinydd siriol aton ni. Archebais i wydraid o win coch yn Eidaleg. (Roedd fy nghalon yn curo'n wyllt!) Ond yn anffodus Sbaenwr oedd o er ei fod o'n deall tipyn o Eidaleg. Chwarae teg iddo, fodd bynnag, dwedodd o, "buonasera, grazie."

Ces i spaghetti carbonara. Cafodd y gŵr ravioli lasagna. (Swnio fel tâp adolygu Cwrs Pellach!) I bwdin, rhannon ni gacen hufen Eidalaidd. Roedd popeth yn flasus.


No comments: