

Rhaid fy mod i wedi cymryd tro anghywir, roedd y llwybr yn mynd i fyny'r llethr eithaf serth. Doedd neb o gwmpas. Dechreuais i feddwl a ddylwn i ddod yn ôl. Yna yn sydyn dyma ddod i mewn man agored. Lle roeddwn i ond ar ben Chwarel Vivian! Roedd yr olygfa'n werth yr holl ddringo. Hoffwn i fod wedi rhannu'r pleser efo cwmni neu ddau. Aeth y llwybr i lawr wedyn trwy'r twmpath sbwriel llechi.
Gorffennais i'r wythnos yn Llanberis yn clywed Côr Merched Clychau Grug o Lanrug yng Ngwesty Victoria gyda'r nos.
2 comments:
Mae dy adroddiadau o Lanberis yn dod ag atgofion braf yn ol!
Dw i'n cael pleser mawr yn cerdded o gwmpas Llanberis hefyd.
Post a Comment