Friday, June 17, 2011

cymru 2011 - cyrraedd

Helo bawb! Wedi tair wythnos braf yng Nghymru, des i'n ôl yn hapus ac yn gallach. Fel arfer, byddwn i am sgrifennu fy atgofion.

Cyrhaeddais i Fanceinion am 7:30 yn y bore, Mai 22, dim ond saith awr o Chicago. Aeth popeth yn iawn y tro 'ma heb golli awyren fel gwnes i'r llynedd.

Mae'n oer! Does gen i ddim côt gynnes oherwydd bod hi'n boeth y llynedd yr un adeg. Dylai bws fynd o Fangor i Lanberis tua dau yn ôl yr amserlen a welais i ar y we ymlaen llaw, ond does dim byd tan bump! Does dim tacsi wrth ymyl yr orsaf hyd yn oed. Rhaid galw un. Tra oeddwn i'n aros, lapiais i flanced ysgafn a ddes i â fo o fy nghwmpas rhag cael fy rhewi. Hogyn lleol clên oedd y gyrrwr a chawson ni sgwrs ddymunol ar y ffwrdd.

Roeddwn i'n darganfod wedyn fy mod i'n aros wrth safle anghywir! Roedd yna fws tua dau wedi'r cwbl......

2 comments:

neil wyn said...

edrychaf ymlaen at ddarllen rhagor o gofnodion dros y dyddiau/wythnosau nesaf :)

Emma Reese said...

Diolch Neil. Sgwennu fy atgofion ydy un o bleserau fy ngwyliau.