Sunday, October 30, 2011

pryd o fwyd wedi'i ailgylchu


Dw i'n siŵr bod yna ddulliau ym mhob diwylliant i ailgylchu pryd o fwyd a'i droi'n un arall. Dyma ddau, un Japaneaidd a'r llall Eidalaidd sef ojiya a spaghetti frittata.

Ojiya: Coginir reis plaen wedi'i stemio mewn cawl soia. Mae'n drwchus iawn. Yn y llun hwn, fe wnes i ychwanegu wy a shiitake (madarch Japaneaidd) i mewn i gawl soia efo gwymon.

Spaghetti frittata: Spaghetti wedi'i ffrio efo wyau a chaws Parmezan.

Fydden nhw ddim yn ennill cystadleuaeth goginio ond maen nhw'n flasus beth bynnag ac arbed gwastraffu bwyd.

2 comments:

neil wyn said...

tria i'r un eidalig, dwi pob tro'n paratoi gormod o sbagetti!

Emma Reese said...

Roedd hynny'n flasus iawn!