mynd i 'chilango's'
Es i i Chilango's, tŷ bwyta Mecsicanaidd poblogaidd yn y dref, efo'r teulu neithiwr i ddathlu fy mhenblwydd yn hwyr. (Doeddwn i ddim yn teimlo'n dda'r wythnos diwethaf.) Roedd y bwyd yn dda iawn fel arfer efo prisiau hynod o resymol. Does ryfedd bod y lle'n llawn bob tro. Ces i Pescado Loco (y llun) a oedd yn flasus dros ben. Doedd y pysgodyn ddim yn wallgof o gwbl! Roedd yn ddiddorol gweld un o'r gweinyddion yn cario tri phlât ar ei elin de a chario un arall yn ei law chwith.
Roedd yn braf nad oedd rhaid i mi baratoi swper.
2 comments:
mae isio bwyd arnaf ar ôl darllen y post hwn!
Beth am bostio am dy hoff bryd o fwyd?
Post a Comment