Wedi cael amser braf yn Japan, des i'n ôl yn ddiogel. Dyma gychwyn adrodd fy hanes.
Fel arfer bydd siwrnai i Japan yn ofnadwy o annifyr gan fydda i'n gorfod dioddef ar sedd gul mewn awyren dros 13 awr o Dallas i Tokyo ar fy mhen fy hun. Ond y tro hwn roedd hi'n llai poenus oherwydd fy mod i'n teithio efo cwmpeini. Dewisais i ffordd wahanol yn newid awyrennau yn Los Angeles a chyfarfod yno fy merch hynaf a gychwynnodd yn Oklahoma City. Mae maes awyr LA yn llawer llai a hen na'r disgwyl. Does sôn am sêr ffilm (sy'n defnyddio rhan arbennig y maes i osgoi'r dyrfa mae'n siŵr.)
llun: cinio yn awyren
2 comments:
Croeso adref Junko ! Mae'r pryd bwyd yn edrych yn flasus iawn ....dipyn gwahanol i'r prydau da ni'n gael pan fyddwn ni'n fflio adref i Gymru. Be di enw'r mynydd ar flaen y blog ogydd?
Diolch! Cawson ni fwyd Tseiniaidd yn yr awyren. "Fuji" ydy'r mynydd. Gwelon ni fo'n glir iawn drwy ffenestr y trên!
Post a Comment