Friday, April 6, 2012

japan - ginza ac otemachi

Roeddwn i'n edrych ymlaen at y diwrnod hwn yn fawr - cyfarfod Mr. Tokyobling a chrwydro Tokyo efo fo. Cychwynnon ni yn Ginza. Dyma ffenestr enwog Wako. Yna aethon ni at gornel wedi'i llenwi efo blodau hardd ymysg yr adeiladau mawr; clywon ni gyngerdd bach ond ardderchog mewn un ohonyn nhw; gwelon ni arddangosfa ddinosor Japaneaidd; cawson ni olygfa wych o Orsaf Tokyo sydd yn cael ei adnewyddu .... Doeddwn i ddim yn gwybod bod cymaint i'w weld yng nghanol ardal fusnes Tokyo. Ces i fy synnu o'r newydd at wybodaeth Mr. Tokyobling am Japan a'i gariad tuag at y diwylliant. 



1 comment:

Emma Reese said...

Dw i newydd gael gwybod mai un a gafodd ei ddarganfod yn Oklahoma ydy'r dinosor yn y llun! Roedd y dinosor Japaneaidd yn cael ei arddangos mewn adeilad arall.