Saturday, April 19, 2025

gwarchodlu wrth y bedd

Trannoeth, y dydd ar ôl y Paratoad, daeth y prif offeiriaid a'r Phariseaid ynghyd at Pilat a dweud, "Syr, daeth i'n cof fod y twyllwr yna, pan oedd eto'n fyw, wedi dweud, ‘Ar ôl tridiau fe'm cyfodir.’ Felly rho orchymyn i'r bedd gael ei warchod yn ddiogel hyd y trydydd dydd, rhag i'w ddisgyblion ddod a'i ladrata a dweud wrth y bobl, ‘Y mae wedi ei gyfodi oddi wrth y meirw’, ac felly bod y twyll olaf yn waeth na'r cyntaf." 

Dywedodd Pilat wrthynt, "Cymerwch warchodlu; ewch a gwnewch y bedd mor ddiogel ag y gallwch." Aethant hwythau a diogelu'r bedd trwy selio'r maen, a gosod y gwarchodlu wrth law. 

Matthew 27:62-66

No comments: