"Beth bynnag a wnewch, p'run ai bwyta, neu yfed, neu unrhyw beth arall, gwnewch bopeth er gogoniant Duw." 1 Corinthiaid 10:31
Tuesday, September 30, 2025
Monday, September 29, 2025
effaith charlie kirk
Ers llofruddiaeth Charlie Kirk, mae cynifer o bobl yn mynd i'r eglwysi ac yn prynu Beibl, nid dim ond yn America ond ledled y byd. Maen nhw'n gofyn ystyr ac amcan y bywyd. Cewch chi ddarganfod y ddau yn Iesu Grist. Yn wir, dim ond yn Iesu fe gewch chi ddarganfod yr ateb.
Friday, September 26, 2025
o israel
Cyrhaeddodd fy archeb o Israel - dates, rhesins, past dannedd (sydd yn gynnwys yr halen o Fôr Marw) ac eli mêl. Modd gwych i gefnogi Israel! Dyma'r siop a archebais ohoni hi.
Wednesday, September 24, 2025
drygioni
"Mae drygioni yn bodoli. Mae o'n llygru, mae o'n llofruddio, mae o'n ymrannu. Ond mae o wedi'i dynghedu i golli. Na fedr fo ymdopi â maddeuant. Mae o'n bwydo ar gasineb. Bydd o'n cwympo dan drugaredd." - Hananya Naftali
Tuesday, September 23, 2025
camgymeriad
Monday, September 22, 2025
canlyn Iesu
Friday, September 19, 2025
penderfyniad iawn
Gwych clywed na fydd Japan yn cydnabod y Wladwriaeth Balesteinaidd. Efallai nid oherwydd eu bod nhw'n cefnogi Israel, ond efallai oherwydd iddyn nhw gael eu perswadio gan yr Unol Daleithiau. Beth bynnag y rheswm, roedd yn benderfyniad iawn.
Wednesday, September 17, 2025
dim troi'n ôl
Os nad fydd neb yn ymuno â fi, byddaf yn dal i'w ddilyn;
Mae'r groes o'm blaen i, y byd tu ôl i mi;
Dim troi'n ôl.
Mae'r emyn enwog hwn yn gofyn i ni, "ydyn ni’n byw mewn ymrwymiad llawn i Iesu yn ein penderfyniadau, ein perthnasau a’n blaenoriaethau?" Dw i newydd wybod yr hanes tu ôl iddo. Dechreuodd popeth drwy genhadwr o Gymru i India!
Tuesday, September 16, 2025
paid ag ofni
Dywedodd yr Arglwydd wrth Paul un noson, trwy weledigaeth, “Paid ag ofni, ond dal ati i lefaru, a phaid â thewi oherwydd yr wyf fi gyda thi...." Actau 18:9
Roedd gan hyd yn oed Paul ofn. Dim rhyfedd; cafodd ei ymosod gan dorf gynddeiriog a threisgar lle bynnag aeth. Pam? Oherwydd ei fod o wedi tystiodd bod Iesu ydy'r Meseia, yn ôl yr Ysgrythur (yr Hen Destament.) Wedi clywed geiriau Iesu hynny, aeth Paul ymlaen yn ddewr.
Monday, September 15, 2025
12 miliwn o charlie kirks
“Os byddwch chi'n cael gwared arna i, bydd pobl eraill yn codi gyda lleisiau uwch.” - Charlie Kirk
Dyna'r union beth sydd yn digwydd nid dim ond yn America ond drwy'r byd. Mae'r symudiadau yn parhau o nerth i nerth. Cynhaliwyd cyfarfod gweddi neithiwr yn y dref fach hon hefyd a fynychwyd gan bron i gant a hanner o bobl.
"Cafodd 12 Miliwn o Charlie Kirks eu Creu Dros Nos," dwedodd y Wenynen.
Friday, September 12, 2025
canlyniad
Ceision nhw ein cyrcydu ni gan ofn. Methu a wnaethon nhw, fodd bynnag. Cafodd cynifer o bobl eu hysbrydoli gan farwolaeth Charlie Kirk fel merthyr, a phenderfynu cario'r ffagl rhyddid ymlaen. Mae mwy a mwy o bobl yn troi'n wladgarol. Dihunodd rai Cristnogion a oedd yn cysgu'n braf.
"Yr oeddech chwi yn bwriadu drwg yn f'erbyn; ond trodd Duw y bwriad yn ddaioni...." Genesis 50:20
Thursday, September 11, 2025
dewrder
“Nid absenoldeb ofn ydy dewrder. Gweithredu er gwaethaf ofn ydy o, oherwydd bod rhyddid yn galw amdano.” Charlie Kirk (1993–2025)
Wednesday, September 10, 2025
tap newydd
Dyma ein tap newydd sbon yn y gegin a osodwyd gan Marcus, ein dyn-o-bob-gwaith. Dyn medrus a chlên mae o. Tynnodd ei esgidiau at y mynediad heb i mi ofyn iddo, peth anarferol i Americanwr.
Tuesday, September 9, 2025
gweddillion
Cafodd y lleuad lawn ddiwethaf ei sôn amdani gymaint drwy'r byd (lleuad waed, diffyg ar y lleuad.) Ces i fy nharo gan yr olwg honno wrth gychwyn cerdded y bore 'ma - Nagori no Tsuki (lleuad wen.) Bob tro bydda i'n gweld un, bydda i'n teimlo tipyn yn drist.
Monday, September 8, 2025
penblwydd mewn anialwch
Doeddwn i ddim yn gwybod byddai neb yn cofio penblwydd fy merch a newydd ddychwelyd i'w gweithle yn Awstralia. Mae'r lle yng nghanol anialwch, ac mae yna ond ychydig o gyd-weithwyr yno. Swrpreis! Trefnodd y bos bopeth yn slei bach gan gynnwys cacen heb glwten a llefrith. Dymunodd pawb ynghyd â rhyw gwsmeriaid cyson "penblwydd hapus" i fy merch.
Saturday, September 6, 2025
y mae tymor i bob peth
Aeth y ddwy ferch yn ôl i Japan ac Awstralia; mae tywydd oeraidd arno ni'n sydyn cwbl; mae'r tŷ yn ddistaw unwaith eto.
"D ydi amsar diodda nag amsar petha braf ddim yn para'n hir." (Neither a time of suffering nor a time of pleasant things lasts for long.) - Nanw Siôn
"Y mae tymor i bob peth, ac amser i bob gorchwyl dan y nef." y Pregethwr 3:1
Friday, September 5, 2025
hysbyseb
Cafodd fy merch ifancaf ran fach mewn hysbyseb NRMA, cwmni yswiriant o Awstralia misoedd yn ôl. "Cymorth" ydy'r pwnc yn y twt hwnnw. Mae fy merch yn ymddangos am ond eiliad; cafodd ei ran hirach ei golygu. A dweud y gwir, treuliodd hi a'r actorion eraill ynghyd â'r criw oriau gyda hwyr i saethu'r olygfa mewn lle anghysbell. Creon nhw law artiffisial hyd yn oed. Ond dyna fo; er mwyn creu hysbyseb un munud, rhaid aberthu ymdrechion nifer o bobl, tybiwn i. Roedd yn fraint i fy merch am gael ei dewis i gymryd rhan yn y prosiect enfawr serch hynny.
Wednesday, September 3, 2025
newydd gyrraedd
Wedi siwrnai hir dros ben, cyrhaeddodd fy merch ei llety yng ngorllewin Awstralia ychydig oriau yn ôl o'r diwedd. Cymerodd 38 awr ers iddi adael y tŷ hwn nes cyrraedd ei hystafell ar ochr arall y byd. Aeth y rhan fwyaf o'r siwrnai'n dda, ar wahân i oedi'r awyren, a cholli'r un nesaf. Mae hi a'i ffrindiau wedi blino'n lân wrth reswm.
Tuesday, September 2, 2025
siwrnai hir
Mae fy merch ifancaf a adawodd Tulsa, Oklahoma neithiwr yn dal i hedfan tuag at Awstralia! Siwrnai ofnadwy o hir, 17 awr o Dallas i Sydney ydy hi. Bydd mwy o'i blaen hi hyd yn oed i gyrraedd lle mae hi'n byw yn y gorllewin. Bydd hi'n ail gychwyn gweithio yn yr unig dŷ gorffwys yng nghanol anialwch.
Monday, September 1, 2025
diwedd yr haf
Wedi treulio mis gartref, mae fy merch ifancaf newydd gychwyn ei siwrnai hir yn ôl i Awstralia. Paentiodd hi hwn yn gyflym cyn iddi adael. Mae'r tŷ yn ddistaw iawn yn sydyn.