Wedi siwrnai hir dros ben, cyrhaeddodd fy merch ei llety yng ngorllewin Awstralia ychydig oriau yn ôl o'r diwedd. Cymerodd 38 awr ers iddi adael y tŷ hwn nes cyrraedd ei hystafell ar ochr arall y byd. Aeth y rhan fwyaf o'r siwrnai'n dda, ar wahân i oedi'r awyren, a cholli'r un nesaf. Mae hi a'i ffrindiau wedi blino'n lân wrth reswm.
No comments:
Post a Comment