Mae'r clychau temlau Bwdhaidd newydd eu canu 108 gwaith ledled Japan wrth i'r flwyddyn olaf yn troi'n un newydd. Er mwyn eich glanhau chi o 108 bechod cyffredin, meddai rhai. Dim ond un peth, fodd bynnag, i'ch glanhau chi o'r holl bechodau, sef gwaed Iesu Grist.
Wednesday, December 31, 2025
Tuesday, December 30, 2025
gadewch i ni gofio
Wrth i flwyddyn ddirwyn i ben unwaith eto, gadewch i ni gofio bydd pawb yn mynd i farw unwaith, yna wynebu barn Duw.
Newyddion da - mae ffordd i osgoi digofaint Duw:
"Pwy bynnag sy'n credu yn y Mab (Iesu,) y mae bywyd tragwyddol ganddo; pwy bynnag sy'n anufudd i'r Mab, ni wêl fywyd, ond y mae digofaint Duw yn aros arno," meddai'r Beibl.
Monday, December 29, 2025
codwch eich golwg
edrychwch ar y ddaear islaw;
y mae'r nefoedd yn diflannu fel mwg,
a'r ddaear yn treulio fel dilledyn,
a'i thrigolion yn marw fel gwybed;
ond bydd fy iachawdwriaeth yn parhau byth,
ac ni phalla fy muddugoliaeth."
Clywch y Gair Duw drwy Eseia.
Friday, December 26, 2025
ofer chwilio
Y fo ydy'r unig ateb yn y bywyd. Bydd yn ofer chwilio yn llefydd eraill, oherwydd mai o ydy'r unig wirionedd. Neb ond fo a fydd yn eich yn bodloni.
"Dewch ataf fi, bawb sy'n flinedig ac yn llwythog, ac fe roddaf fi orffwystra i chwi," meddai Iesu.
Wednesday, December 24, 2025
Monday, December 22, 2025
tymor y Nadolig
Wrth i Ŵyl Hanukkah newydd orffen, dyma dynnu fy set y Geni allan o'r cwpwrdd. Fe wnes i drefnu modd gwahanol eleni gan osod y ffigurynnau wrth y ffenestr blaen.
Saturday, December 20, 2025
fe ddaw yn ôl
"Gwelais y nef wedi ei hagor, ac wele geffyl gwyn; enw ei farchog oedd Ffyddlon a Gwir, oherwydd mewn cyfiawnder y mae ef yn barnu ac yn rhyfela. Yr oedd ei lygaid fel fflam dân, ac ar ei ben yr oedd diademau lawer. Yn ysgrifenedig arno yr oedd enw na wyddai neb ond ef ei hun. Yr oedd y fantell amdano wedi ei throchi mewn gwaed, ac fe'i galwyd wrth yr enw Gair Duw." Datguddiad 19:11-13
Iesu ydy Gair Duw. Daeth unwaith fel babi bach ym Methlehem. Fe ddaw yn ôl fel brenin buddugol. Tyrd, Arglwydd Iesu!
Friday, December 19, 2025
addoli yn y pentagon
Tuesday, December 16, 2025
rheswm y dathlu
Yn ystod tymor yr Hanukkah a'r Nadolig, gadewch i ni gofio pwy ydy rheswm ydyn ni'n dathlu - Iesu Grist a ddaeth i'r byd fel Duw mewn cnawd er mwyn achub y byd. Y fo ydy'r unig ffordd, a'r gwirionedd a'r bywyd.
Monday, December 15, 2025
hanukkah
Yna llefarodd Iesu wrthynt eto. “Myfi yw goleuni'r byd,” meddai. “Ni bydd neb sy'n fy nghanlyn i byth yn rhodio yn y tywyllwch, ond bydd ganddo oleuni'r bywyd.” Ioan 8:12
Wednesday, December 10, 2025
dyn ni'n gweddïo
Tuesday, December 9, 2025
pob gogoniant i Dduw!
Monday, December 8, 2025
bydded i mi yn ôl dy air di
Pan glywodd Mair gan yr angel y neges anhygoel, dywedodd, “dyma lawforwyn yr Arglwydd; bydded i mi yn ôl dy air di.” Luc 1:38
Roedd Mair yn gwybod beth fyddai'n digwydd i ferch ddi-briod â phlentyn, ond roedd hi'n barod i wneud popeth dros ei Duw. Ddylen ni byth ei haeddol wrth gwrs (neb ond Duw,) ond mae hi'n haeddu parch. Cafodd hi ei dewis oherwydd ei chalon ddiffuant a'i ffydd gadarn yn Nuw.
Saturday, December 6, 2025
microdon
Wednesday, December 3, 2025
pam Israel?
"Ddylai Cristion gefnogi Israel?" gofynnir mwy aml yn ddiweddar.
Wrth gwrs. Mae Duw yn eu caru nhw. Dylai Cristnogion garu pawb a phopeth mae o'n ei garu.
Yna, efallai byddech chi'n dweud mai gwlad seciwlar ydy Israel bellach; dydy'r rhan fwyaf o'r Iddewon ddim yn credu yn eu Duw; mae digonedd o bechodau yn y gymdeithas.
Cywir. Nid ar eu ffyddlondeb a daioni mae cariad Duw yn dibynnu, fodd bynnag, ond ar ei ffyddlondeb ei hun. Mae ei gariad tuag at Israel yn dystiolaeth ei ffyddlondeb.
Tuesday, December 2, 2025
bendithiaf y rhai sy'n dy fendithio
Monday, December 1, 2025
digon oer o'r diwedd
Roedd y tywydd wedi bod yn hynod o fwyn. Tynnon ni dân yn y stôf llosgi coed heddiw am y tro cyntaf eleni. Un o hoff bethau'r gŵr yn ystod gaeaf ydy weithio at y cyfrifiadur o flaen y tân. Dyma fo wrthi yn hapus.