Wednesday, December 3, 2025

pam Israel?

"Ddylai Cristion gefnogi Israel?" gofynnir mwy aml yn ddiweddar.

Wrth gwrs. Mae Duw yn eu caru nhw. Dylai Cristnogion garu pawb a phopeth mae o'n ei garu. 

Yna, efallai byddech chi'n dweud mai gwlad seciwlar ydy Israel bellach; dydy'r rhan fwyaf o'r Iddewon ddim yn credu yn eu Duw; mae digonedd o bechodau yn y gymdeithas. 

Cywir. Nid ar eu ffyddlondeb a daioni mae cariad Duw yn dibynnu, fodd bynnag, ond ar ei ffyddlondeb ei hun. Mae ei gariad tuag at Israel yn dystiolaeth ei ffyddlondeb.

No comments: