Tuesday, March 24, 2026

casgliad

Cyflogodd y brenin Balac o Foab Balam i felltithio pobl Israel o gwmpas 1400 C.C. Methodd Balam bedair gwaith, fodd bynnag. Daeth fendith o'i geg yn lle melltith bob tro. Daeth i’r casgliad yn y diwedd, ac ailadrodd addewid Duw i Abraham:

"Bydded bendith ar bawb a'th (Israel) fendithia, a melltith ar bawb a'th felltithia."

Dyna fo.

Monday, March 23, 2026

aros i glywed

“Er mwyn hyn yr wyf fi wedi cael fy ngeni, ac er mwyn hyn y deuthum i'r byd, i dystiolaethu i'r gwirionedd,” meddai Iesu. Meddai Pilat wrtho, “Beth yw gwirionedd?” Wedi iddo ddweud hyn, daeth allan eto..... (yn ôl Efengyl Ioan)

Drueni nad oedd Pilat wedi aros i glywed ateb gan Iesu i'w gwestiwn. Roedd o'n siarad gyda Gwirionedd ei hun, sef Duw mewn cnawd.

Saturday, March 21, 2026

chuck norris

"Mae'n bwysig gwneud eich heddwch â Christ tra bo cyfle. Mae bywyd mor fregus fel nad ydych chi byth yn gwybod pryd bydd yn gorffen." - Chuck Norris

Cytuno'n llwyr.

Friday, March 20, 2026

doniol

"Penderfynon ni rannu'r môr gydag Iran, a dyn ni weddi rhoi iddyn nhw hanner gwaelod ohono fo." 
- Yr Ysgrifennydd Rhyfel Pete Hegseth

Mae o'n wych!

Wednesday, March 18, 2026

tymor i bob peth

"Y mae tymor i bob peth, ac amser i bob gorchwyl dan y nef:
amser i ryfel, ac amser i heddwch."

"Bendigedig yw yr Arglwydd, fy nghraig;
ef sy'n dysgu i'm dwylo ymladd, ac i'm bysedd ryfela."

Geiriau Duw

Tuesday, March 17, 2026

wele fe'n dod

"Pan fydd yr archangel yn galw ac utgorn Duw yn seinio, bydd yr Arglwydd ei hun yn disgyn o'r nef; bydd y meirw yng Nghrist yn atgyfodi yn gyntaf, ac yna byddwn ni, y rhai byw a fydd wedi eu gadael, yn cael ein cipio i fyny gyda hwy yn y cymylau, i gyfarfod â'r Arglwydd yn yr awyr; ac felly byddwn gyda'r Arglwydd yn barhaus." - 1 Thesaloniaid 4

Dyma ein gobaith ni sydd yn credu yn Iesu ac yn byw drosto fo.

Monday, March 16, 2026

bendith Duw

“Bydded i'r Arglwydd dy fendithio a'th gadw;
bydded i'r Arglwydd lewyrchu ei wyneb arnat, a bod yn drugarog wrthyt;
bydded i'r Arglwydd edrych arnat, a rhoi iti heddwch." - Numeri 6

Mae Duw wrth ei fodd yn bendithio ei bobl. Cewch heddwch go iawn ganddo.

Saturday, March 14, 2026

blodeuyn yn gwywo

"Y mae'r glaswellt yn crino, a'r blodeuyn yn gwywo;
ond y mae gair ein Duw ni yn sefyll hyd byth," meddai Eseia.

Friday, March 13, 2026

addewid Duw

Y mae ef (Duw, sef Iesu Grist) wedi dweud, 
“Ni'th adawaf fyth, ac ni chefnaf arnat ddim.” 
Am hynny dywedwn ninnau'n hyderus:
“Yr Arglwydd yw fy nghynorthwywr, ac nid ofnaf; beth a wna pobl i mi?”
Iesu Grist, yr un ydyw ddoe a heddiw ac am byth.
- Hebreaid 13

Diolch i ti, yr Arglwydd am dy addewid. 

Wednesday, March 11, 2026

dynes haearn japaneaidd


Mae Prif weinidog Japan newydd gyhoeddi y byddai'n rhyddhau casgenni o olew o'i gronfeydd wrth gefn. Hynod o anarferol i Japan i wneud peth beiddgar o flaen neb arall. Fel arfer, maen nhw'n edrych o gwmpas a dilyn y mwyafrif.  Dynes haearn Japaneaidd mae hi yn bendant.

Gwelais fod IEA wedi penderfynu gwneud yr un peth.

Tuesday, March 10, 2026

er mwyn i genedl dderbyn bendith

"Gwna'r Arglwydd gyngor y cenhedloedd yn ddim, a difetha gynlluniau pobloedd.
Ond saif cyngor yr Arglwydd am byth, a'i gynlluniau dros yr holl genedlaethau.

Gwyn ei byd y genedl y mae'r Arglwydd yn Dduw iddi,
y bobl a ddewisodd yn eiddo iddo'i hun."    Salm 33:10 - 12




Monday, March 9, 2026

addewid sicr

"Yr wyf yn gadael i chwi dangnefedd; yr wyf yn rhoi i chwi fy nhangnefedd i fy hun. Nid fel y mae'r byd yn rhoi yr wyf fi'n rhoi i chwi. Peidiwch â gadael i ddim gynhyrfu'ch calon, a pheidiwch ag ofni," meddai Iesu.

Beth bynnag fydd yn digwydd yn y byd, mae gannon ni dangnefedd Iesu. Addewid sicr i bawb sydd yn credu ynddo fo. 

Saturday, March 7, 2026

mynd trwy'r dyfroedd

Roedd fy merch eisiau genedigaeth holl naturiol. Roedd hi'n bwriadu cael ei babi mewn clinig bydwraig. Ond yn aml iawn na eith pethau fel gobeithiwn ni. Ac eto, peidiwch â digalonni oherwydd bod Duw wedi addo: 

"Pan fyddi'n mynd trwy'r dyfroedd, byddaf gyda thi."

Roedd o gyda fy merch drwy gydol y frwydr. Mae hi'n gwellhau, ac mae ei babi yn berffaith ddel.


Friday, March 6, 2026

gwyrth

Cafodd fy merch hynaf yn Tokyo ei babi cyntaf ddoe. Er bod rhaid iddi fynd drwy doriad Cesaraidd brys, wedi dioddef 30 awr o boen eithafol, mae hi a'r babi'n iawn bellach. Gwyrth ydy babi; campwaith Duw. 

Wednesday, March 4, 2026

dewis call

Geiriau Duw i Israel:

"Bydd y rhai sy’n ymladd yn dy erbyn di yn diflannu ac yn marw.
Byddi’n edrych am y rhai sy’n ymosod arnat ti ac yn methu dod o hyd iddyn nhw.
Fi, yr Arglwydd, ydy dy Dduw di, yn rhoi cryfder i dy law dde di, ac yn dweud wrthot ti: paid bod ag ofn. Bydda i’n dy helpu di.”
(Beibl.net)

Rhaid dewis eich cynghreiriaid yn gall. Dim syniad da i ymuno â gelynion Israel.

Tuesday, March 3, 2026

dwy ŵyl

Mae dwy ŵyl bwysig yn syrthio ar yr un diwrnod eleni, sef Pwrim a Hinamatsuri - Pwrim i gofio ffyddlondeb Duw yn achub yr Iddewon; Hinamatsuri i ddymuno iechyd a hapusrwydd i ferched ifanc (a hen.)

Monday, March 2, 2026

cyd-ddigwyddiad?

Addawodd Duw fyddai fo'n bendithio'r rhai sydd yn bendithio disgynyddion Abraham, ac yn melltithio'r rhai sydd yn eu melltithio. Mae hanes y byd yn tystio dros ei addewidion. Fel i Haman a oedd yn ceisio dinistrio'r Iddewon i gyd yn Ymerodraeth Persia, rhoddodd Duw'r un ddedfryd i Oruchaf Arweinydd Iran. Ces i fy nharo i weld bod ei enw yn cynnwys Haman! Cyd-ddigwyddiad? Nid fydd Duw yn gweithio trwy gyd-ddigwyddiad. 

Sunday, March 1, 2026

pethau bychain

"Byddwch lawen a chedwch eich ffydd a'ch cred, a gwnewch y pethau bychain a welsoch ac a glywsoch gennyf i'."

Dydd Ŵyl  Dewi Sant hapus.

Saturday, February 28, 2026

rhu'r llew


Dwedir bod hanes yn ailadrodd ei hun. Mae'n ymddangos nad ydy'r byd yn dysgu'r wers bwysig hon - na fyddwch chi byth yn llwyddo i ddinistrio Israel. Clywch wraig Haman yn Llyfr Esther: “os yw Mordecai, yr wyt yn dechrau cwympo o'i flaen, yn Iddew, ni orchfygi di mohono; ond yr wyt ti'n sicr o gael dy drechu ganddo ef.”

Friday, February 27, 2026

beth bynnag

"Beth bynnag yr ydych yn ei wneud, gweithiwch â'ch holl galon, fel i'r Arglwydd, ac nid i neb arall," dwedodd Paul yn ei lythyr.

Mae beth bynnag yn golygu beth bynnag - coginio, golchi llestri, glanhau tŷ bach, gwrando yn amyneddgar ar adrodd hir diflas cymydog, a mwy. Gwnewch bopeth â'ch holl galon, fel i'r Arglwydd.

Thursday, February 26, 2026

adnod heddiw

"Dyna pam y mae ef (Iesu) hefyd yn gallu achub hyd yr eithaf y rhai sy'n agosáu at Dduw trwyddo ef, gan ei fod yn fyw bob amser i eiriol drostynt," medddai'r Beibl.

Achub hyd yr eithaf ..... ond trwyddo ef

Tuesday, February 24, 2026

coffi gwych

Dyma goffi gwych o Honduras. Job, ein ffrind ni a'i griw sydd yn ei gynhyrchu ar eu fferm flaengar yno. Maen nhw'n ceisio helpu'r ffermwyr lleol drwy ddangos modd effeithiol i ffermio, a dwyn Efengyl Iesu Grist ar yr un pryd.

Saturday, February 21, 2026

dal i weddïo



Ymwelodd fy ail ferch ei nain yn ddiweddar. Cafodd ei synnu gan ba mor fywiog oedd hi. Er fy mam wedi colli llawer o'i chof, mae hi'n iach yn ei chorf, ac yn siriol. Dwedodd ei bod hi'n dal i weddïo dros ei theulu bob dydd. Roedd ei bywyd yn ofnadwy o galed. Dw i 'n hynod o ddiolchgar bod Duw wedi ei hachub hi drwy Iesu Grist, a rhoi iddi lawenydd ym mhennod olaf ei bywyd.

Wednesday, February 18, 2026

amser i eni


Mae fy merch hynaf yn disgwyl babi unrhyw ddydd. Mae'n anodd aros, yn enwedig pan ddych chi wedi blino, ac yn llawn dop (yn llythrennol.)

Ond.... 

"Y mae tymor i bob peth, ac amser i bob gorchwyl dan y nef:
amser i eni, ac amser i farw," meddai'r Beibl.

Tuesday, February 17, 2026

hollol ddyn, hollol Dduw

Pan aeth Iesu i fro ei febyd a dechrau dysgu yn y synagog, cafodd nifer o'r trigolion eu synnu wrth wrando arno fo.

Dwedon nhw, “ble gafodd e’r holl ddoethineb, a’r gallu i wneud gwyrthiau? Saer ydy e. Mab Mair. Brawd Iago, Joseff, Jwdas a Simon! Mae ei chwiorydd yn dal i fyw yn y pentref ma.” (Beibl.net)

Hollol ddyn oedd Iesu, er ei fod yn hollol Dduw. Cysyniad anodd deall, ond cawn ni ei dderbyn drwy'r ffydd.

Monday, February 16, 2026

peidiwch â gohirio

Heddiw os clywch chi ei lais, peidiwch â gohirio. Wyddoch chi ddim beth fydd yn digwydd fory. Ewch ato fo, sydd yn galw arnoch chi.

"Dewch ataf fi, bawb sy'n flinedig ac yn llwythog, ac fe roddaf fi orffwystra i chwi," meddai Iesu.

Saturday, February 14, 2026

oherwydd ei fod yn byw

Dyma un o fy hoff ganeuon:

Oherwydd ei fod yn fyw, medra i wynebu yfory
Oherwydd ei fod yn fyw, mae pob ofn wedi diflannu
Oherwydd fy mod yn gwybod ei fod yn dal y dyfodol, mae bywyd yn werth chweil byw
Oherwydd ei fod yn byw

Friday, February 13, 2026

o ble y daw cymorth i mi?

"Codaf fy llygaid tua'r mynyddoedd;
o ble y daw cymorth i mi?
Daw fy nghymorth oddi wrth yr Arglwydd,
creawdwr nefoedd a daear."
Y Salmau 121:1,2

Wednesday, February 11, 2026

diystyr

"Deng mlynedd a thrigain yw blynyddoedd ein heinioes, 
neu efallai bedwar ugain trwy gryfder,
ond y mae eu hyd yn faich ac yn flinder;
ânt heibio yn fuan, ac ehedwn ymaith," 
meddai Moses.

"Gwagedd llwyr yw'r cyfan.
Pa elw sydd i neb yn ei holl lafur,
wrth iddo ymlafnio dan yr haul?"
gofynodd Solomon, y dyn doethaf.

Heb Iesu Grist, mae popeth yn ddiystyr.

Tuesday, February 10, 2026

llew jwda


"A oes neb yn deilwng? A oes neb un yn gyfan?
A oes neb yn gallu torri'r sêl ac agor y sgrôl?" 
gofynir Andrew Peterson yn ei gân.

Yr ateb: 

"Oes!"
"Llew Jwda a gorchfygodd y bedd.
Ef oedd gwreiddyn Dafydd a'r Oen a fu farw i brynu'r caethwas."

Dyma fersiwn gan One for Israel, mewn tair iaith - y Saesneg, yr Hebraeg a'r Arabeg.

Monday, February 9, 2026

y diben

"Felly os yw'r Mab (Iesu) yn eich rhyddhau chwi, byddwch yn rhydd mewn gwirionedd," meddai Iesu.

Nid er mwyn i ni gael gwneud beth bynnag byddwn ni ei eisiau, fodd bynnag, ond er mwyn i ni addoli Duw, a gwasanaethu o.

Saturday, February 7, 2026

arglwydd y saboth

“Y Saboth a wnaethpwyd er mwyn dyn, ac nid dyn er mwyn y Saboth. Felly y mae Mab y Dyn yn arglwydd hyd yn oed ar y Saboth," meddai Iesu.

Shabbat Shalom

Friday, February 6, 2026

ailgysegru america


"Dyn ni'n gwahodd Americanwyr o bob cwr o'r wlad i ddod i weddïo, i ddiolch ... dyn ni'n mynd i ailgysegru America fel un genedl dan Dduw," datganodd yr Arlywydd Trump.

Dim ond un ffordd i unrhyw genedl i lwyddo a ffynnu - ofni'r Duw go iawn ac ufudd iddo.

Wednesday, February 4, 2026

llyfr job

Gorffennais ddarllen Llyfr Job, gyda rhaglen Stand on the Word. Mae yna bethau amlwg ynghyd â chynifer o bethau anodd deall. Beth ddysgais drwyddo ydy:
1. Mae Duw ydy Duw. Crëwr popeth, sanct, mawreddog mae o.  
2. Mae Satan yn wir, ac mae o'n weithgar.
3. Dyn ni ddim yn deall popeth mae Duw yn wneud.
4. Dylen ni ofyn i Dduw "beth wyt ti eisiau i mi ddysgu/wneud?", yn lle "pam wyt ti'n gwneud hyn a'r llall?"

Tuesday, February 3, 2026

gŵyl ddechrau gwanwyn

Dathlwyd Setsubun, sef gŵyl ddechrau gwanwyn yn Japan ddoe. Taflu ffa soi gan yr offeiriaid at y bobl wedi casglu ydy un o'r defodau. Aeth fy merch hynaf a'i gŵr at y cysegr gerllaw, ond roedd cynifer o bobl a oedd yn ceisio dal y bagiau o ffa, ayyb. Penderfynon nhw gamu allan er mwyn osgoi damweiniau. (Call iawn!)

Saturday, January 31, 2026

datmer

Roeddwn i'n gaeth yn y tŷ a'r iard gefn am wythnos oherwydd yr eira. Gan fod yr eira ar y ffyrdd wedi toddi, es i am dro yn y gymdogaeth er bod yn dal yn oer (23F/-5C.) Roedd yn hynod o braf cerdded ar ffyrdd cyfarwydd dan yr haul llachar yn yr awyr ffres.

Thursday, January 29, 2026

lle cawn ni ddoethineb?

"Ond pa le y ceir doethineb? a pha le y mae trigfan deall? Ni ŵyr neb ble mae ei chartref, ac nis ceir yn nhir y byw."
"Ni ellir rhoi aur yn dâl amdani, na phwyso'i gwerth mewn arian."
"Duw sy'n deall ei ffordd; y mae ef yn gwybod ei lle;
ofn yr Arglwydd yw doethineb, a chilio oddi wrth ddrwg yw deall.” - Llyfr Job

Wednesday, January 28, 2026

ynni'r haul

Dyn ni'n cadw'n gynnes gydag ynni'r haul. Mae coed yn dal ynni'r haul ac yn ei storio mewn pren a all ddal yr ynni am flynyddoedd. Pryd bynnag bydd angen arnon ni (hyd yn oed os nad yw'r haul yn tywynnu), byddwn ni'n taflu'r tanwydd solar solet yn y stôf am wres glân sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd, organig, naturiol, effeithlon ac ailgylchadwy. Gallwch hefyd ei ddefnyddio i goginio ar ei ben.

Tuesday, January 27, 2026

gobaith go iawn

Gobaith - y peth pwysig yn y bywyd. Pwy all fyw hebddo fo? Mae gan gynifer o bobl iselder oherwydd nad oes ganddyn nhw obaith. Beth ydy'r gobaith go iawn? Mae gan Job yr ateb; ffeindio fo obaith yn ei ddioddefaint:

"gwn fod fy amddiffynnwr yn fyw,
ac y saif o'm plaid yn y diwedd;
ac wedi i'm croen ddifa fel hyn,
eto o'm cnawd caf weld Duw." Job 19:25

Monday, January 26, 2026

parti adar

Mae'r haul yn disgleirio wrth ddechrau toddi'r eira. Dan ni heb golli trydan, diolch i'r criw sydd yn gweithio'n galed drwy'r amser. Mae'r tir yn dal ei orchuddio gan eira fodd bynnag. Daeth cynifer o adar gwyllt at ein bwydwr yn yr iard.

Sunday, January 25, 2026

eglwys gartref

Gan fod gwasanaeth yr eglwys ei ganslo oherwydd yr eira, cynnal un gartref wnes gyda'r gŵr. Wedi gweddïo a chanu emyn, gwrandon ni bregeth gan ein hoff weinidog, sef Garry Hamrick o Calvary Chapel, Leesburg, Virginia. Mae'r haul wedi dod allan bellach, ond dal yn ofnadwy o oer. (Dan ni'n gynnes braf, fodd bynnag, diolch i'r llosgwr logiau.) 

Saturday, January 24, 2026

gwynder eira

Wedi tywydd mwyn, daeth gaeaf go iawn yn nerthol. Deffrais y bore 'ma yn y byd gwyn. Efallai ein bod ni wedi cael dwy fodfedd o eira, ac mae o'n dal i ddisgyn. Mae gwynder eira'n atgoffa i o'r adnod hon:

“Pe bai eich pechodau fel ysgarlad, fe fyddant cyn wynned â'r eira," medd yr Arglwydd.

Wednesday, January 21, 2026

addewid

Nid oherwydd eu bod nhw'n well neu gryfach na'r lleill, ond oherwydd mai ffyddlon ydy Duw. Mae digonedd o anffyddlondeb wrth Dduw a methiant ymysg Israel yn y gorffennol a heddiw. Ac eto na fydd ei ddewis byth yn newid. Mae popeth yn dibynnu arno fo, nid ar y bobl.

"Gwnaf di yn genedl fawr a bendithiaf di; mawrygaf dy enw a byddi'n fendith. Bendithiaf y rhai sy'n dy fendithio, a melltithiaf y rhai sy'n dy felltithio, ac ynot ti bendithir holl dylwythau'r ddaear," meddai'r Arglwydd wrth Abraham.

Monday, January 19, 2026

cartref

Dw i'n byw yn y tŷ yma dros bron i 30 mlynedd, hirach na unrhyw le dw i wedi byw erioed; tua 20 mlynedd roeddwn i'n byw yn fy nhŷ plentyndod yn Japan. Er hynny fedra i ddim ystyried mai fy nghartref go iawn ydy hwn. Efallai na fyddai'n teimlo'n gartrefol nes i mi gyrraedd adref yn y nef gydag Iesu.

"yn y nefoedd y mae ein dinasyddiaeth ni," Philipiaid 3:20

Saturday, January 17, 2026

hiraethu


Un o'r nifer o ganeuon a ddysgais yn yr ysgol ydy hon. Cafodd ei chyfieithu i'r Japaneg yn yr 20fed canrif ar gyfer y disgyblion o gân Americanaidd ydy hi. Mae'n sôn am hiraeth am y dref enedigol. Dw i'n deall y teimladau'n dda yn ddiweddar. Er nad oes fy nhŷ heb sôn am fy rhieni yn fy nhref enedigol mwyach, mae rhan fach ohonof i'n hiraethu amdani.

Thursday, January 15, 2026

croniclau narnia


Mae fy mab hynaf yn darllen Croniclau Narnia i'w ddau blentyn ers wythnosau. Maen nhw wrth eu bodd. Prynon nhw set bwa a saeth blastig hyd yn oed, ac maen nhw wrthi, union fel y Frenhines Susan. Roedd fy mhlant yn hoff iawn o'r nofel pan oedden nhw'n fach hefyd. Peth gwych i ymddiddori ynddo, yn yr adeg iPad hon.

Tuesday, January 13, 2026

fe sych bob deigryn

Fe sych bob deigryn o'u llygaid hwy, 
ac ni bydd marwolaeth mwyach, 
na galar na llefain na phoen.
"Yn wir, yr wyf yn dod yn fuan,” meddai Iesu.

Amen. Tyrd, Arglwydd Iesu!

Monday, January 12, 2026

gorffwystra

Ydach chi wedi blino byw? Oes gynnoch chi bryder ac ofn? Dyma beth mae Iesu'n ei ddweud:

"Dewch ataf fi, bawb sy'n flinedig ac yn llwythog, ac fe roddaf fi orffwystra i chwi."


Saturday, January 10, 2026

i'r llwch


"Trwy chwys dy wyneb y byddi'n bwyta bara
hyd oni ddychweli i'r pridd,
oherwydd ohono y'th gymerwyd;

llwch wyt ti, ac i'r llwch y dychweli," meddai Duw.

Friday, January 9, 2026

pa fath ddyn yw hwn?

"Aeth Iesu i mewn i'r cwch, a chanlynodd ei ddisgyblion ef. A dyma storm fawr yn codi ar y môr, nes bod y cwch yn cael ei guddio gan y tonnau; ond yr oedd ef yn cysgu. Daethant ato a'i ddeffro a dweud, “Arglwydd, achub ni, y mae ar ben arnom.” A dywedodd wrthynt, “Pam y mae arnoch ofn, chwi o ychydig ffydd?” Yna cododd a cheryddodd y gwyntoedd a'r môr, a bu tawelwch mawr. Synnodd y bobl a dweud, “Pa fath ddyn yw hwn? Y mae hyd yn oed y gwyntoedd a'r môr yn ufuddhau iddo.” - Matthew 8

Pa fath wir? Dim ond Duw sydd yn allu orchymyn y natur.

Wednesday, January 7, 2026

rhag i ni flino

Mae'r bywyd yn galed. Beth ddylen ni wneud rhag i ni flino neu ddigalonni? - meddwl am Iesu; beth wnaeth droston ni.

"Gadewch i ninnau redeg yr yrfa sydd o'n blaen heb ddiffygio, gan gadw ein golwg ar Iesu. Er mwyn y llawenydd oedd o'i flaen, fe oddefodd ef y groes heb ddiffygio." Hebreaid 12 


Tuesday, January 6, 2026

cerdyn Nadolig

Cafodd y cerdyn Nadolig at ein hen gydnabod yn Japan ei ddychwelyd. Wedi gofyn o gwmpas, dysgais ei fod wedi marw. Cafodd ei ddarganfod yn y bath, o drawiad ar y galon mae'n debyg. Dw i ddim yn sicr iddo gredu yn Iesu. Os felly, mae popeth yn iawn. Mae o gydag Iesu. Os fel arall - 

Monday, January 5, 2026

pris petrol

Mae'n hyfryd gweld yr arwyddion petrol yn y dref yn ddiweddar, heb sôn am dalu cymaint llai i lenwi'r tanc wrth gwrs. Roedd bron yn 5 doler y galwn yn adeg Mr. Biden. Diolch i'r Arlywydd Trurmp, mae'n costio llai na 2 ddoler bellach!

Saturday, January 3, 2026

y Bible bob dydd

Wedi gorffen darllen y Beibl gyda Tony Perkins, dechreuais siwrnai newydd eto Ddydd Calan gan ymuno â'r cynifer o gyd-deithwyr. Yr amcan ydy darllen y Beibl cyfan bob dydd mewn dwy flynedd, o Genesis i Ddatguddiad. 

Dyma'r crynodeb gan y gŵr ar rai gwirioneddau allweddol sydd yn hanfodol i ffydd a bywyd Cristnogol.
1: Mae Duw.
2: Duw a greodd bopeth.
3: Creodd Duw ddynoliaeth yn wryw a benyw (dau ryw)
4: Rhoddodd Duw i ddynolryw awdurdod dros holl anifeiliaid y ddaear.

Thursday, January 1, 2026

yn y dechreuad

"Yn y dechreuad creodd Duw y nefoedd a'r ddaear.  ............. Gwelodd Duw y cwbl a wnaeth, ac yr oedd yn dda iawn." - Genesis

Roedd poeth yn dda iawn pan greodd Duw'r nefoedd a'r ddaear.