Mae fy mab hynaf yn darllen Croniclau Narnia i'w ddau blentyn ers wythnosau. Maen nhw wrth eu bodd. Prynon nhw set bwa a saeth blastig hyd yn oed, ac maen nhw wrthi, union fel y Frenhines Susan. Roedd fy mhlant yn hoff iawn o'r nofel pan oedden nhw'n fach hefyd. Peth gwych i ymddiddori ynddo, yn yr adeg iPad hon.
No comments:
Post a Comment