Tuesday, September 23, 2008

tyllau o hyd


Dw i'n dal i ddarllen Tyllau. Bydda i'n darllen pennod yn Saesneg gynta, yna yr un bennod yn Gymraeg. Yn aml iawn bydda i'n cael fy synnu at grefft Ioan Kidd, y cyfieithydd.

e.e. Mae 'na stafell i'r hogia i ymlacio, ond mae'r rhan fwya o'r dodrefn wedi cael eu torri gynnyn nhw. Felly, cywirodd rhywun enw'r stafell o "rec room" i "wrec room." Ac sut mae dweud hyn yn Gymraeg? "ystafell orffwys" ac "ystafell orffwyll" !!

Mae 'na enghraifft dda o gymhlethdod atebion Cymraeg:
"Have you seen Zero?"
"No."
"No sign of him at all?"
"No."
"Do you have any idea where he went?"
"No."

"Wyt ti 'di gweld Zero?"
"Nagw."
"Dim golwg ohono fe o gwbl?"
"Naddo."  (Nage??)
"Oes gyda ti unrhyw syniad i ble aeth e?"
"Nag oes."

Dw i'n hoff iawn o'r story hefyd. Falch bod y nofel wedi cael ei chyfieithu i'r Gymraeg.




2 comments:

neil wyn said...

Dwi'n cofio twrio trwy'r detholiad bychain o lyfrau Cymraeg yn ein Borders lleol pan ddes i o hyd i 'Tyllau'. Wrth i mi ddarllen y tudalen cyntaf, dyma fy merch yn dod draw a dweud 'I've read that at school, it's called 'Holes'. Dim ond yna sylweddolais llyfr i blant ydy hi, ond er hynny perffaith i ddysgwyr hefyd.

Emma Reese said...

Ydy'r plant draw fan na'n darllen y nofel yn yr ysgol hefyd? Mi ges i gopi o fersiwn gwreiddiol gan fy mhlant.

Mae 'na rai dysgwyr yn darllen Harry Potter. Mae Tyllau yn well o lawer yn fy nhyb i, wps yn fy marn i.