Dw i'n ofni bod pobl yn meddwl bod ni ddim yn gwenud dim byd ond cael pot lwc yn ein eglwys ni. Mi gaethon ni un arall dros y myfyrwyr Japaneaidd heddiw beth bynnag.
Roedd 'na fwy na digon o bwyd da gan gynnwys bara Indiaidd. Mi wnes i fethu fy un i yn anffodus. Dim llun ohono fo felly.
Dyma lun o'r bwrdd pwdin. Cacen afal pîn oedd yr orau yn fy marn i.
6 comments:
waw - eich eglwys chi fydd y fwyaf poblogaidd yn y dref mae'n siwr! sa' i'n siwr ydwy 'di profi bara indiaidd 'ta peidio. ydy e'n debyg i "corn bread" neu yn hollol wahanol?
mae 'na lot o "ffyrdd ffeind" ag india-corn on'd oes? pan own i a'm priod yn awstralia amser dolig diwetha', paratodd fy rhieni i ginio, fel arfer, gan wahodd ffrind da i ni o america sy'n byw yn sydney erbyn hyn (americanes o ddysgwraig gymraeg fel mae'n digwydd!). y "corn pudding" roedd hi 'di dod oedd "hit" cinio dolig.
Tro cynta i mi fwyta bara Indiaidd roedd hi er mod i wedi clywed amdano. Mae o fel bara gwastad wedi 'i ffrio mewn saim. Fe'i bwytir efo cig a llysiau.
Dw i'n crasu 'corn bread' yn aml a bisgedi 'corn' weithiau. Erioed wedi cael 'corn pudding.'
rwy'n gweld - bara indiaidd o india, mae'n debyg!
Naci, mae'n debyg ond dipyn yn wahanol i chapati. Mae'r bara ma wedi 'deep fried.' Felly mae gynno fo lawer mwy o fraster na chapati.
Ydy o'n debyg i 'Naan Bread' Emma? Dw i'n hoff iawn o fara Naan efo cyrri.
Tebyg ond dim yr un peth. Mae Naan a chapati cael eu crasu, ond cael ei ffrio mewn saim ydy bara Indiaidd.
Post a Comment