Cynhelir gwledd Gwyl Diolchgarwch yn yr Adran Optometreg yn y brifysgol bob blwyddyn. Ymunais i â nhw eleni am y tro cynta (er mwyn cael sgrifennu amdani yn fy mlog!) Roedd yna tua 150 o bobl gan gynnwys y myfyrwyr, athrawon, staff a'u teuluoedd. Caethon ni gymaint o fwyd da; twrci, cig moch, tatws stwns, 'dressing', saws llugaeron, llysiau a mwy. Ac am bwdin roedd yna bwmpenni wedi'u gwneud yn gacennau, pasteiod a bisgedi. Dw i ddim isio swper heno!
llun: ddim gwrando ar ddarlith ond mwynhau eu cinio arbennig maen nhw!
2 comments:
Dw i'n hoffi'r bwyd yn dy flog, Emma. Rhaid i ti barhau mynd i ddigwyddiadau fel hyn. Dyma amser y flwyddyn am fwyd wrth gwrs, i'n cadw ni'n gynnes dros y gaeaf !!
tasai fe yn ddarlith, hwn'na fyddai cwrs mwya poblogaidd y brifysgol i gyd mae'n siwr!
Post a Comment