Byddwn ni'n dechrau defnyddio'n stof tân ddechrau mis Tachwedd bob blwyddyn, ond mae hi wedi bod yn gynhesach eleni nag arfer. Mae cacwn a buchod coch cwta wedi mwynhau'r hydref mwyn.
Neithiwr,
wnaethon ni gynnau tân o'r diwedd wedi i'r tymheredd ostwng yn sylweddol yn y p'nawn. Braf ydy cael tân yn y tyˆ. Mae o'n eich cynhesu chi drwodd. Wna i goginio cawl tatws i swper ar y stof heno.
4 comments:
neis iawn! a gawn ni ddod draw i fwynhau'ch tân hyfryd chi 'fyd? mae'r gwres yn ein lle ni 'di penderfynu peidio â gweithio o gwbwl!
ti'n iawn o ran y buchod cochion ciwt 'na - roedd 'na filiynau ohonyn nhw eleni!
Yn fan na hefyd? Dw i erioed wedi gweld cymaint ohonyn nhw o'r blaen. (Dydyn nhw ddim yn debyg i fuchod gyda llaw.)
na, does dim tebygrwydd - dyw buchod normal ddim yn leicio mynd rhwng y ffenestri a'r "ffenestri storm", na chasglu mewn cornel i'r nenfwd i gysgu dros nos. diolch byth.
ro'n nhw fel pla o gwmpas fan hyn, cymaint ohonyn nhw yn y ty^ fel bod y lle fel the amityville horror ond gyda buchod coch cwta yn lle clêr.
Ond maen nhw'n ddel.
Post a Comment