Friday, July 16, 2010

deian a loli

Nofel gyntaf un Kate Roberts ydy hon. Sgrifennodd hi am hynt a helynt efeilliaid, Deian a Loli ers eu diwrnod geni i'r adeg pan safon nhw arholiad ysgoloriaeth i ysgol y sir. Mae hi'n ysgafnach na 'Te yn y Grug' oherwydd mai am blant ac ar gyfer plant ydy'r nofel. Mae'r iaith braidd yn anodd i blant, tybiwn i, ond hwyrach bod y plant ers talwm yn fwy deallus. Ar y llaw arall, cawson nhw gansen ar fympwy'r athrawon hefyd; druan ohonyn nhw! Mwynheais i'r llyfr beth bynnag.

3 comments:

~^~ said...

Mae iaith wedi newid cymaint dros y deugain mlynedd diwethaf. Mae geiriau oedd yn gwbl gyffredin pan oeddwn i'n fychan yn gwbl anghyfarwydd i fy mab. Mae'n biti mewn rhyw ffordd, ond dyna fo, esblygu mae popeth yn gorfod ei wneud i oroesi.

Emma Reese said...

Mae hynny'n digwydd mewn ieithoedd eraill hefyd, tydy. Dw i ddim yn gyfarwydd รข rhai geiriau diweddaraf yn Japanaeg chwaith; geiriau wedi'u benthyg gan Saesneg ydy'r rhan fwyaf ohonyn nhw.

Ann Jones said...

Diolch! Dwi wedi bod yn chwilio am lyfr arall i ddarllen ar ol gorffen Ffydd Gobaith Cariad Llwyd Owen - ac oherwydd mae nhw'n cymyd dipyn o amser i gyrraedd llyfrgell ni yn Lloegr mae rhaid meddwl be dwi eisio darllen o flaen llaw. Dwi newydd orffen Y lon wen felly bydd hon yn un dda