Tuesday, July 27, 2010

cylchfan


Clywais i Dafydd a Caryl yn sôn am gylchfan yn Florida y bore 'ma; roedd nifer o ddamweiniau traffig o gwmpas y gylchfan newydd achos bod hi'n drysu'r bobl sy ddim yn gyfarwydd â hi.

A dweud y gwir, er mod i ddim yn gyrru ond eistedd ar sedd wrth fy ffrind, roedd cylchfannau'n rhoi braw i mi yng Nghymru. Maen nhw i fod i'ch achub rhag aros fel wrth oleuadau traffig, ond rhaid aros am eich troeau, yn hir braidd weithiau, on'd oes? Wrth gwrs mod i'n gallu gweld y manteision hefyd.

Tynnais i lun o un o'r cylchfannau yng Nghaernarfon i adrodd yr hanes wrth fy nheulu!

3 comments:

neil wyn said...

Ges i fy synnu clywed hynny ar sioe caryl a daf a dweud y gwir. Ro'n i heb sylwi mai pethau cymharol prin ydy cylchfannau yn yr Unol Daleithiau. Mae 'na ambell i gylchfan peryglus fan hyn mae'n siwr, ond mae'n helpu ein bod ni wedi tyfu fynu efo nhw. Dwi'n meddwl eu bod nhw'n gweithio'n well mewn mannau sydd ddim yn rhy brysur, ond mae'r cyngor wedi disodli un lleol gyda goleuadau traffic andros o gymhleth (am gost uchel iawn!) sydd wedi gwaethygu'r tagfeydd o bosib. Dwi'n cofio gweld car o'r Ffrainc unwaith ger Dover yn trio trafeilio o amgylch cylchfan y ffordd anghywir!!

Emma Reese said...

O, dw i'n teimlo dros y Ffrancwr 'na. Dw i'n siŵr baswn i'n wneud yr un peth pe bawn i'n gyrru draw!

neil wyn said...

A finnau hefyd wrth deithio i'r cyfandir!