Monday, August 29, 2011

casglu coed tân

Rhaid dechrau casglu coed tân ar gyfer y gaeaf er bod hi'n dal yn boeth, hynny ydy rhaid i'r gŵr eu casglu. Fel arfer mae yna ffrind neu ddau a fydd yn cynnig eu coed wedi'u torri ar eu tiroedd yn rhad ac am ddim i gael gwared arnyn nhw.

Heno aeth y gŵr i gasglu coeden a dorrodd cymydog yn ddiweddar. Gan ei bod hi'n cael ei thorri'n ddarnau mawr yn barod, dim ond eu cludo ar ferfa a oedd angen arno fo. Bydd o'n ei thorri'n ddarnau bychan i ffitio mewn ein llosgwr logiau ryw ddiwrnod.

Dydy'r hydref ddim yn rhy bell.

No comments: