
Mae pobl ifanc ein heglwys ni'n trio codi arian ar gyfer eu gweithgaredd. Un o'r pethau maen nhw'n ei wneud ydy gweini yn Del Rancho, tŷ bwyta poblogaidd yn y dref hon. Maen nhw'n cael cadw'r cil-dwrn at yr achos, diolch i'r perchennog cefnogol.Es i a'r teulu i Del Rancho neithiwr felly am swper i'w cefnogi tra oedd un o fy merched yn gweini. Ces i Tahlequah Taco (defnyddir bara Indiaid wedi'i ffrio'n ddwfn) a chafodd fy merch arall Steak Burger; mae'r ddwy'n saig boblogaidd Del Rancho. Beth bynnag yr achlysur, roedd y bwyd yn dda ac roedden ni'n mwynhau'r swper.
No comments:
Post a Comment