Sunday, February 12, 2012

yn hollol annisgwyl

Fedra i ddim credu beth sydd wedi digwydd y bore 'ma. Pan oeddwn i wrthi'n gweini coffi ar ôl yr ysgol Sul, daeth dynes ddieithr am goffi. Merch un o'r aelodau ydy hi, ac mae hi'n ymweld ei mam yma ar hyn o bryd ond yn byw yn yr Eidal ers 26 mlynedd! Doeddwn i ddim yn disgwyl ffasiwn beth! Dechreuon ni sgwrsio'n Eidaleg - y sgwrs Eidaleg fyw gyntaf i mi. Roedd yn anodd cofio popeth dw i wedi bod yn ei ddysgu; roeddwn i eisiau dweud mwy ond rhaid bodloni efo pynciau syml. Roedd fy mab sy'n treulio'r penwythnos efo ni'n digwydd gwisgo crys tîm pêl-droed cenedlaethol yr Eidal! Dyma gael tynnu llun ohonon ni. 

No comments: