Wednesday, December 18, 2019

kadomatsu

Dyma addurn Japaneaidd a wnaeth fy merch hynaf wrth gael mantais ar y llwyn o fambŵ yn ei hiard cefn. Gelwir kadomatsu sydd yn golygu pinwydd ar gongl yn llythrennol. Roedd ganddo ystyr crefyddol, ond erbyn hyn mae'r bobl yn ei osod fel rhan o draddodiad i groesawu blwyddyn newydd. Mae ci fy merch yn eistedd rhwng campwaith ei feistres. Trueni nad Blwyddyn Ci mae'r flwyddyn nesaf ond Llygoden.

No comments: