Friday, December 27, 2019

mochdew clyfar

Cawson ni anrheg arall gan frawd y gŵr, sef tegan mochdew wedi'i stwffio. Nid tegan cofleidiol cyffredin ydy o, ond un hynod o glyfar. Amlieithog ydy o! Mae o'n ailadrodd popeth dach chi'n dweud wrtho fo yn ei lais doniol. Rhoddais gynnig arni yn Gymraeg, Japaneg ac Eidaleg; mae o'n hollol rugl! Dw i a'r plant yn cael llawer o hwyl gyda fo.

No comments: