Thursday, January 30, 2025

babi newydd sbon

Cafodd chwaer wraig fy mab hynaf fabi neithiwr. Malachi ydy ei enw. Mae o'n edrych yn fabi iach a hapus. Y peth rhyfeddol ydy iddo gael ei eni ar yr un diwrnod â fy wyres yn Japan sydd weddi troi'n flwydd oed. Rhyw gefndryd ydyn nhw mae'n rhaid.  

Wednesday, January 29, 2025

levi

Mae fy merch hynaf yn gofalu am gi arall am gyfnod. Enwodd hi o yn Levi. Roed rhaid iddo gael llawdriniaeth, profion gwaed a sawl phigiad ar yn un pryd er mwyn gael ei fabwysiadu. Rhaid ei fod o'n brifo oherwydd ei fod o'n ceisio llyfu'r clwyf, druan ohono fo. Mae o'n caru fy merch yn fawr iawn, ac eisiau bod yn agos ati drwy'r amser. Mae hi'n cael ei chysuro yn ei thro ganddo. Mae hi'n dal i golli ei chi a fuodd farw ddwy flynedd yn ô; mae Levi'n ei hatgoffa hi ohono fo.

Tuesday, January 28, 2025

adnod addas

Des i ar draws adnod sydd yn disgrifio beth mae'r Arlywydd Trump yn ei wneud yn frwd ers cychwyn ei swydd. Dyma hi:
"Y mae brenin doeth yn nithio'r drygionus, ac yn troi'r rhod yn eu herbyn."  Diarhebion 20:26

A dweud y gwir, mae'r cyfieithiad Saesneg yn mynegi'r ystyr yn llawer gwell:
"A wise king winnows out the wicked; he drives the threshing wheel over them."

Monday, January 27, 2025

brenin cyrus

Mae'r Arlywydd Trump yn dal i weithio'n galed dros America yn anhygoel o benderfynol a chyflym ers iddo gychwyn dyddiau'n ôl. Mae'r rhan fwyaf o bobl America yn llawenhau yn gweld popeth yn gwella yn anghredadwy o gyflym. Dw i'n credu'n siŵr mai Brenin Cyrus arall ydy o, a ddewiswyd a chomisiynwyd gan Dduw ar gyfer y fath amser â hwn.

Saturday, January 25, 2025

tra gellir ei gael

Amyneddgar ydy'n Duw ni; mae o'n aros am y person olaf a ddewisodd i ddod ato fo. Na fydd o'n aros am byth, fodd bynnag. Beth ddylen ni ei wneud felly? Yr ateb:

"Ceisiwch yr Arglwydd tra gellir ei gael, galwch arno tra bydd yn agos. Gadawed y drygionus ei ffordd, a'r un ofer ei fwriadau, a dychwelyd at yr Arglwydd, iddo drugarhau wrtho, ac at ein Duw ni, oherwydd fe faddau'n helaeth." Eseia 55:6-8

Thursday, January 23, 2025

gwellhau'n cyffyrddadwy

"Pan fydd y cyfiawn yn llywodraethu, llawenha'r bobl,
ond pan fydd y drygionus yn rheoli, bydd y bobl yn griddfan." Diarhebion 29:2

Fedrai ddim atal meddwl am yr adnod hon bob dydd yn ddiweddar. Bob tro gwelaf newyddion (dilys, dim ffug,) bydd erthyglau am sut mae'r Arlywydd Trump yn cyflawni'i addewidion ymgyrch, un ar ôl y llall. Mae polisïau hyfryd yn cael eu gweithredu'n anhygoel o gyflym, ac America'n gwellhau'n gyffyrddadwy. 

Wednesday, January 22, 2025

gweddi

"Boed i'n calonnau ni droi at dy lais di. Na all America byth fod yn rhagorol eto os ydyn ni'n troi ein cefnau arnoch chi. Gofynnwn am dy gymorth," galwodd Franklin Graham ar Arglwydd Dduw. Amen!

Tuesday, January 21, 2025

awyr adfywiol


Cyn gynted ag y daeth y dathliadau cenedlaethol i ben, aeth yr Arlywydd newydd at ei waith ar yr unwaith yn Nhŷ Gwyn. Mae'n anhygoel o braf ac adfywiol gweld iddo arwyddo rhyw ddau gant o orchmynion swyddogol arlywyddol "prydferth." Mae'r effaith yn cymryd lle yn barod! Cafodd 1,500 o'r gwystlon gwleidyddol, sef y carcharorion 6 Ionawr dieuog, eu rhyddhau; cafodd y ffin ddeheuol ei gau ar wynebau'r mewnfudwyr anghyfreithlon a oedd wrth y wal. Dirymodd lu o'r gorchmynion niweidiol yn erbyn Israel hefyd. Hwrê!

Monday, January 20, 2025

cyfnod newydd



Dyma eiriau amserol a chraff y Gweinidog Greg Laurie - bydded Duw arwain, amddiffyn a bendithio'r Arlywydd Trump. Cyfrifoldeb yr Eglwys ydy gwneud America yn dduwiol eto.

"Pan fydd y cyfiawn yn llywodraethu, llawenha'r bobl, ond pan fydd y drygionus yn rheoli, bydd y bobl yn griddfan." Diarhebion 29:2

Saturday, January 18, 2025

digon o bobl/bethau hurt


Cyhoeddodd y Wenynen fyddai'n cau'r wefan wrth i'r Arlywydd Trump gychwyn swyddogol mewn dyddiau gan na fydd ei weinyddiaeth yn darparu targed werth chweil ar gyfer dychan dilys. Dw i ddim yn sicr ydy hyn ei gellwair arall. Gobeithio ddim, oherwydd bod yna ddigonedd o bobl/bethau hurt o hyd i'r Wenynen i ysgrifennu amdanyn nhw!



Thursday, January 16, 2025

distawrwydd Duw

Dydy distawrwydd Duw ddim yn golygu ei fod o'n cymeradwyo pechodau. Yn aml mae'n adlewyrchu ei amynedd, ac mae o eisiau i bobl edifarhau yn hytrach na iddo eu condemnio nhw ar unwaith.

"Nid yw'r Arglwydd yn oedi cyflawni ei addewid, fel y bydd rhai pobl yn deall oedi; bod yn amyneddgar wrthych y mae, am nad yw'n ewyllysio i neb gael ei ddinistrio, ond i bawb ddod i edifeirwch." 2 Pedr 3:9

Wednesday, January 15, 2025

rhinweddau exodus 18:21

Wrth i'r Senedd ddechrau'r gwrandawiad, gadewch i ni weddïo y bydd yr aelodau'n cadarnhau, gyda dirnadaeth a dewrder, yr arweinwyr wedi eu penodi. Rhaid i arweinwyr arddangos rhinweddau Exodus 18:21:

"Ethol o blith yr holl bobl wŷr galluog a gonest, sy'n parchu Duw ac yn casáu llwgrwobrwyo, a'u penodi dros y bobl yn swyddogion ar unedau o fil, o gant, o hanner cant ac o ddeg."

Tuesday, January 14, 2025

newydd gychwyn

Fel Cristnogion, doedd ein cyfrifoldeb ni ddim yn dod i ben gydag etholiad 2024. Dylen ni ddim ei drosglwyddo i'r llywodraeth. Mae'r gwaith a ymddiriedwyd gan Dduw i ni newydd gychwyn.  - Decision Magazine

Cytuno'n llwyr.

Monday, January 13, 2025

heddwch go iawn

"Gweddïwch am heddwch i Jerwsalem." y Salmau 122:6

Dyma wydr lliw a greodd un o fy merched pan oedd hi yn yr ysgol uwchradd. Ffeindiais y le delfrydol i'w osod. Bydd heddwch go iawn yn dod, fodd bynnag, ond drwy Iesu Grist.

"Yr wyf yn gadael i chwi dangnefedd; yr wyf yn rhoi i chwi fy nhangnefedd i fy hun. Nid fel y mae'r byd yn rhoi yr wyf fi'n rhoi i chwi." Ioan 14:27

Saturday, January 11, 2025

heulwen!

Wedi eira anarferol o drwm, dan ni'n cael heulwen ac awyr las heddiw. Mae'r eira'n disgleirio'n llachar fel gemwaith; mae popeth yn edrych yn siriol. Diolch i ti, yr Arglwydd am yr heulwen.

Friday, January 10, 2025

eira!

Deffrais ym myd gwyn y bore 'ma. Na chawson ni gymaint o eira ers blynyddoedd yn yr ardal hon. Fe wnes i siopa'n barod ac mae gynnon ni ddigon o fwyd am sbel. Mae'r tŷ yn gynnes gyda'r stôf llosgi coed. Dw i'n ddiolchgar i bawb sydd yn gwneud y gwaith cynnal a chadw ar y llinellau trydan, ar y strydoedd, a mwy.

Thursday, January 9, 2025

tŷ cynnes

Mae tywydd Arctig ar ran helaeth yr Unol Daleithiau. Dan ni'n disgwyl eira y prinhawn 'ma yn fy ardal hefyd. Mae'r tŷ yn gynnes braf, fodd bynnag, diolch i'r stôf llosgi coed. Cyneuodd y gŵr dân cyn gynted ag y daeth yn ôl o Japan ddyddiau'n ôl. Dw i'n ddiolchgar yn arw i Mr. Begley a drwsiodd y gwres canolog tra bod y gŵr oddi cartref.

Sunday, January 5, 2025

tŷ cynnes

Wedi cyfnod o dywydd mwyn, mae'r gaeaf wedi dychwelyd gyda gwynt ac eirlaw. Dw i mor ddiolchgar bod yr angel, sef Mr. Begley wedi dod i drwsio'r gwres canolog ddeuddydd yn ôl. Er fy mod i'n gosod y tymheredd llawer is na'r rhan fwyaf o'r Americanwyr, mae'n ymddangos yn foethus cynhesu'r tŷ cyfan, a does dim rhaid i mi ddioddef oerfel lle bynnag bydda i yn y tŷ. 

Saturday, January 4, 2025

angel i'r adwy

Torrodd y gwres canolog (yr unig ffordd i gynhesu'r tŷ ar hyn o bryd.) Wedi cael cip, dwedodd y dyn trwsio fod o'n gorfod archebu darnau. Roedd dyma ddibynnu ar reiddiadur bach am wythnos, ac aros yn yr ystafell wely'r rhan fwyaf o'r amser. Roeddwn i'n gobeithio'r dyn yn dod yn fuan oherwydd byddai'r tymheredd i fod i ddisgyn at 13F/-10C nos Sul. Daeth o ddoe o'r diwedd (roedd o'n edrych fel angel) a thrwsio popeth. Hwrê! Roeddwn i eisiau crio o lawenydd!


Friday, January 3, 2025

myfi yw

"Myfi yw'r cyntaf, a'r olaf hefyd.
Fy llaw a sylfaenodd y ddaear,
a'm deheulaw a daenodd y nefoedd;
pan alwaf arnynt, ufuddhânt ar unwaith.” 

"Fel hyn y dywed yr Arglwydd, dy Waredydd, Sanct Israel:
Myfi yw'r Arglwydd dy Dduw,
sy'n dy ddysgu er dy les,
ac yn dy arwain yn y ffordd y dylit ei cherdded."

Eseia 48:13, 17

Thursday, January 2, 2025

blwyddyn neidr



Dw i newydd bostio llythyr cyntaf y flwyddyn hon i fy mam yn Japan. Mae hi'n byw mewn cartref henoed. Er ei bod hi'n holl iach yn ei chorf, mae ei chof yn gwaethygu’n sylweddol yn ddiweddar. Dim yn rhy ddrwg i berson 102 oed fodd bynnag. Dw i'n dal i sgrifennu ati hi bob mis er bod hi'n methu sgrifennu yn ôl ata i bellach. Ychwanegais ddarlun o neidr gyda chyfarchion yn Japaneg oherwydd mai Blwyddyn Neidr ydy hi eleni.

Wednesday, January 1, 2025

gair duw

Does dim byd gwell na chychwyn blwyddyn newydd gyda Gair Duw.

"Nid oes Duw ond myfi, Duw cyfiawn, a gwaredydd.
Nid oes neb ond myfi. Chwi, holl gyrrau'r ddaear, edrychwch ataf i'ch gwaredu, canys myfi wyf Dduw, ac nid oes arall."  
Eseia 45:21,22