Digwyddodd hyn o'r blaen ond ddysgais mo'r wers!
Monday, October 12, 2009
dim eto
Bydd y sbwriel yn cael ei godi ar ddydd Llun yn yr ardal yma. Ond heddiw roedd o'n dal am 3 o'r gloch yn y prynhawn. Dylai hyn fod wedi canu'r gloch ond es i swyddfa'r post i yrru fy ngwaith at y tiwtor Cymraeg beth bynnag. Roedd y drws ar glo. Ac roedd yna arwydd arno fo, "Columbus Day." Mae yna sawl gwˆyl felly yn yr Unol Daleithiau. Dim ond y gweithiwyr cyhoeddus heblaw'r athrawon sy'n cael diwrnodau i ffwrdd yn achosi anghyfleusterau i'r bobl gyffredin.
Sunday, October 11, 2009
wyneb newydd
Dechreuodd rhywun newydd ddod i'n heglwys ni. Dennis, athro hanes Ewrop yn y brifysgol leol ydy o. Mae o'n dod o Rwsia ac yn medru pump o ieithoedd. Cafodd fy ngwr gyfle i dreulio amser gyda fo ddoe ac roeddwn i'n awyddus i siarad â fo hefyd. Gyda chymorth google, dysgais bedwar ymadrodd Rwsieg yn sydyn:
Dôbre wˆdre (bore da)
Minya zafwt ______. (______ dw i.)
Spasîba (diolch)
Dasfidania (hwyl)
Dwedais "Dôbre wˆdre" wrtho fo y bore ma, ac atebodd o "con nitsi wa" (helo yn Japaneg!) Mynychodd o ddosbarth Japaneg am wythnos ac mae o'n dal i gofio rhai ymadroddion. Ces i ddweud y pedwar ymadrodd Rwsieg i gyd ac roedd o'n fy neall! Cawson ni sgwrs am ieithoedd wedyn.
Saturday, October 10, 2009
Friday, October 9, 2009
diwrnod i'r brenin
Diwrnod Cenedlaethol Cofio T.Llew Jones ydy hi heddiw. Baswn i eisiau gyda'r 13,000 o blant ysgolion cynradd Cymru cofio un o'r awduron a beirdd mwyaf Cymru.
Darllenais ddwsin o'i lyfrau hyd yn hyn a mwynhau pob un ohonyn nhw, Barti Ddu yn enwedig fel dwedais droeon. Mae llyfrau T.Llew yn ddelfrydol i ddysgwyr canolradd ymlaen. Drwy ei llyfrau des i'n gyfarwydd â Chymraeg safonol a hanes Cymru mewn ffordd mor ddiddorol.
Mae rhai o'r plant yn gwisgo i fyny fel cymeriadau o'i lyfrau. Pe bawn i'n cael ymuno â nhw, efallai baswn i'n fodryb Tim Boswel, Tân ar y Comin. Does yna ddim llawer o wragedd yn ei storiau.
Gobeithio y caf i ddarllen gweddill o'i llyfrau i gyd. Dim ond rhyw 40 sydd ar ôl!
Tuesday, October 6, 2009
y deuddegfed llyfr
Gorffennais fy neuddegfed llyfr gan T.Llew Jones a brynais am bunt ym mhabell y Cyngor Llyfrau ym maes Eisteddfod y Bala. Bargen fawr wir! Dirgelwch yr Ogof ydy hwn, stori Siôn Cwilt, smyglwr Cwmtydu. Er bod y diwedd dipyn yn rhy ramantus yn fy nhyb i, does yna ddim dwywaith mod i wedi mwynhau'r nofel hon gan feistr y stori antur.
Mae Diwrnod Cofio T.Llew rownd y gornel. Braf cael darllen llyfr arall gynno fo.
Monday, October 5, 2009
siom
Dw i newydd glywed gan diwtor fy nosbarth "Tai Chi" bod y dosbarth dydd wedi cael ei ganslo. Does yna ddim digon o bobl sy'n dod yn y dydd yn ddiweddar. Dim ond dosbarth nos sy'n dal. Fedra i ddim ei fynychu achos mod i'n brysur gyda'r hwyr. Bydda i'n ymarfer "Tai Chi" ar fy mhen fy hun adref bob dydd ond dydy hynny ddim cystal â mynd i ddosbarth wrth reswm. Wel, sgen i ddim dewis. Mae'r tymor alergedd ar fin darfod. Bydda i wrthi'n cerdded.
Friday, October 2, 2009
o gymru
Dyma alaw sy'n glynu'n dynn wrth eich meddwl yn syth. Dw i'n siwr mod i wedi clywed y gân hon o'r blaen, ond dyma'r tro cyntaf i mi glywed y fersiwn llawn a hanes tu ôl iddi hi. Mae'n wefreiddiol. Bryn Terfel sy'n ei chyflwyno ar Radio Cymru.
Subscribe to:
Posts (Atom)