ac yn ymladd rhyfel olaf yn erbyn poen.
Wrth i farwolaeth ildio i fuddugoliaeth,
bydda i'n gweld goleuadau gogoniant,
ac yn gwybod Ei fod yn fyw."
Dw i'n hoff iawn o drydydd pennill yr emyn hwn.
Cawson ni gymaint o law yn y misoedd diwethaf, a bydd glaw yn dod gyda mellt a tharanau bob tro. Dychrynllyd ydy'r taranau yn yr ardaloedd 'ma.
Mae'n ymddangos bod yn hynod o anodd i nifer o bobl fodern aros munud hyd yn oed heb edrych ar eu ffôn. Es i at ddeintydd y bore 'ma. Fel mae'n digwydd, roedd o mor brysur fel roedd rhaid i mi aros yn hir iawn er bod gen i apwyntiad. Yn lle edrych ar fy ffôn, penderfynais wneud dim. Roeddwn i'n ceisio "ymlonyddu a deall mai O sydd Dduw."
"Y mae tymor i bob peth, ac amser i bob gorchwyl dan y nef," meddai'r Pregethwr yn y Beibl.
Daeth breuddwyd fy mab hynaf yn wir ddoe, hynny ydy gweld gêm tîm UDA yng Nghwpan y Byd. Mae o a'i deulu yn Seattle am wyliau rŵan, ac aeth (ar ben ei hun) i'r stadiwm i weld y gêm rhwng UDA ac Awstralia. Roedd yn brofiad byth cofiadwy, meddai!
Cyn y gêm, cannodd y tîm a chefnogwyr UDA'r anthem gyda'u holl galonnau, a'u llais yn atseinio'r stadiwm enfawr.
Cafodd y nef aelod newydd eto. Ces i sgwrs sydyn gyda fo ond pythefnos yn ôl. Yna, clywais fod fy hen ffrind annwyl wedi mynd at Iesu'n barod. Dwedodd ei wraig nad oedd yn dioddef wrth iddo fynd. Dim ond dweud a wnaeth, "dw i'n mynd adref" cyn tynnu ei anadl olaf. Hwyl am y tro, fy ffrind.
Penblwydd hapus i'r Arlywydd Trump annwyl!
Roedd yn stormus neithiwr. Pan ddeffrais yn ystod y nos, roeddwn i'n sylweddoli nad oedd trydan. Es i'r tŷ bach gyda fflach lamp. Methais fynd yn ôl i gysgu. Wedi hanner awr, fodd bynnag, clywais y ficrodon yn gwneud sŵn gwan tu ôl y mur. Roeddwn i'n gwybod bod y trydan wedi dychwelyd, diolch i'r criw a ddatrysodd y broblem yng nghanol nos.
Fu farw nain wraig fy mab hynaf o gancro yn Taiwan neithiwr. Hedfanodd ei mab o Texas pan glywodd ei bod hi ar fin marw wythnosau'n ôl. Doedd ganddi ddiddordeb yn Nuw yn ystod ei bywyd, ond wrth iddi nesáu at farwolaeth, meddalodd ei chalon. Gyda chymorth ei mab a gweinidog yr ysbyty, rhoddodd ffydd yn Iesu Grist. Gadawodd y byd hwn yn y tangnefedd perffaith. Mae hi gydag Iesu bellach. Haleliwia!
Roedd y Brenin Dafydd yn ceisio ffoi o'i fab, Absalom, a gadael Jerwsalem. Yn ymysg y rhai a'i dilynodd oedd Itai y Gethiad, a'i 600 o ddynion gyda'u teuluoedd. Er bod y Brenin yn annog i Itai i fynd at y brenin newydd (Absalom,) gwrthod a wnaeth Itai gan fynnu, "ple bynnag yr â f'arglwydd frenin, i farw neu i fyw, yno'n sicr y bydd dy was hefyd.”
Dyn ffyddlon a chryf - un o fy hoff gymeriadau ydy o.
Oes syched arnoch chi? Hynny ydy, syched yr ysbryd. Dyma fo, y dŵr bywiol:
“Pwy bynnag sy'n sychedig, deued ataf fi ac yfed. Allan o'r sawl sy'n credu ynof fi, fel y dywedodd yr Ysgrythur, y bydd ffrydiau o ddŵr bywiol yn llifo,” meddai Iesu
Mae fy ail ferch yn Japan newydd bostio'r lluniau a dynnodd yn ystod ymweliad ei thad y mis diwethaf. Hwn ydy un ohonyn nhw, glan Afon Tama ym mro fy mebyd. Mae'n rhyfeddol bod fy merch yn byw mewn ardal digon agos at y lle a ges i fy magu.
Gofynnodd fy wyres, ddwy a hanner oed, i'w mam wrth weld llun o'i rhieni cyn iddi gael ei geni, "lle ydw i?"
Atebodd ei mam, "doeddet ti ddim yna. Dw i ddim yn gwybod lle oeddet ti cyn i ti ddod tu mewn i fy stumog. Lle oeddet ti? Oeddet ti gyda Duw? Oeddet ti'n arnofio rhywle?"
"Ar y dŵr," meddai.
Dw i newydd anfon llythyr at fy mam sydd yn byw mewn cartref henoed yn Tokyo. Dw i'n ysgrifennu llythyr ati ar y cyntaf o bob mis ers blynyddoedd. Yn ddiweddar mae ei chof wedi gwaethygu'n arw fel nad ydy hi'n cofio ei theulu'n dda hyd yn oed. Dw i ddim yn sicr ydy hi'n fy nghofio i chwaith. Dw i'n dal i ysgrifennu ati hi, fodd bynnag wrth obeithio adfywio ei hymennydd. Bydda i'n cynnwys adnod neu ddwy bob tro. Dewisais hon (eto) y tro 'ma, sydd yn addas i mi hefyd:
"Am hynny, nid ydym yn digalonni. Er ein bod yn allanol yn dadfeilio, yn fewnol fe'n hadnewyddir ddydd ar ôl dydd." 2 Corinthiaid 4:16