Thursday, July 30, 2026

Dydd yr Arglwydd

"Fe ddaw Dydd yr Arglwydd fel lleidr, a'r Dydd hwnnw bydd y nefoedd yn diflannu â thrwst, a'r elfennau yn ymddatod gan wres, a'r ddaear a phopeth sydd ynddi yn peidio â bod."

"Gan fod yr holl bethau yma ar gael eu datod fel hyn, ystyriwch pa mor sanctaidd a duwiol y dylai eich ymarweddiad fod," medd Pedr yn ei lythyr.

A dim ond drwy Iesu Grist gall ni fod yn sanctaidd a duwiol.

Tuesday, July 28, 2026

un drws

"Mae dilyw Noa yn ein hatgoffa ni bod Duw yn barnu pechod. Mae'r arch yn ein hatgoffa ni bod Duw wedi darparu ffordd achub. Yr union fel roedd ond un drws i'r arch, mae ond un drws i iachawdwriaeth dragwyddol. Iesu Grist, yr Arglwydd ydy'r drws." Ken Ham

Cytuno'n llwyr. 

Monday, July 27, 2026

fy nghryfder

"Er i'm calon a'm cnawd ballu, eto y mae Duw yn gryfder i'm calon ac yn rhan imi am byth," meddai un o'r Salmyddion.

Cytuno'n llwyr. Dw i'n teimlo'n wan yn gorfforol mwyfwy yn ddiweddar, ond mae Iesu, fy Nuw sydd yn rhoi nerth i mi fwrw ymlaen un dydd ar y tro.

Saturday, July 25, 2026

y fendith

“Bydded i'r ARGLWYDD dy fendithio a'th gadw; 
bydded i'r ARGLWYDD lewyrchu ei wyneb arnat, a bod yn drugarog wrthyt;
bydded i'r ARGLWYDD edrych arnat, a rhoi iti heddwch."

Er mai i bobl Israel mae'r fendith hon yn wreiddiol yn yr Hen Destament, dw i'n credu gallwn ni gael ein cynnwys ni fel dilynwyr Iesu Grist.

Wednesday, July 22, 2026

lle mae o bellach?

Bydd "viewing" nos Wener ar gyfer teulu'r dyn a fu farw'n ddiweddar, gan ddilynir angladd ddydd Sadwrn. Dw i ddim yn bwriadu barnu'r traddodiad. Ond wir i chi; nad ydy o yn y corff mewn arch ond gydag Iesu yn y nef bellach. Dim ond cragen wag ydy hwnnw. Bydd o, ynghyd â phawb a oedd yn credu yn Iesu Grist, yn byw gyda'r Arglwydd am byth a bythoedd yn yr heddwch perffaith.

Tuesday, July 21, 2026

peth pwysicaf

Beth ydy'r peth pwysicaf yn eich bywyd chi?

Meddai Iesu, "Beth ydy'r pwynt o gael popeth sydd gan y byd i'w gynnig, a cholli'r enaid?" (Beibl.net)

Monday, July 20, 2026

croeso cynnes

Aeth hen ddyn annwyl arall at Iesu ddoe. Un o aelodau ffyddlon ein heglwys ni oedd, ac roedd o wrthi gyda'i wraig dros Dduw yn Ne Affrica ers blynyddoedd cyn ymddeol yn y dref hon. Dw i'n credu'n sicr iddo gael croeso cynnes gan yr Arglwydd, a chlywed, "Ardderchog, fy ngwas da a ffyddlon."

Saturday, July 18, 2026

bwrw dy faich

“Bwrw dy faich ar yr ARGLWYDD, ac fe'th gynnal di; ni ad i'r cyfiawn gael ei ysgwyd byth," meddai Duw. 

Mae adnod debyg yn un o lythyrau Peder; efallai ei fod wedi meddwl am yr adnod hon pan ysgrifennodd ei lythyr. Mae hi'n rhoi nerth i mi bob tro.

Wednesday, July 15, 2026

ni chymer ddim

"Paid ag ofni pan ddaw rhywun yn gyfoethoga phan gynydda golud ei dŷ,
oherwydd ni chymer ddim pan fo'n marw, ac nid â ei gyfoeth i lawr i'w ganlyn.
Er iddo yn ei fywyd ei ystyried ei hun yn ddedwydd, a bod pobl yn ei ganmol am iddo wneud yn dda, fe â at genhedlaeth ei hynafiaid, ac ni wêl oleuni byth mwy," meddai'r Beibl.

Monday, July 13, 2026

hyd yn oed Solomon

"A pham yr ydych yn pryderu am ddillad? Ystyriwch lili'r maes, pa fodd y maent yn tyfu; nid ydynt yn llafurio nac yn nyddu. Ond rwy'n dweud wrthych, nid oedd gan hyd yn oed Solomon yn ei holl ogoniant wisg i'w chymharu ag un o'r rhain," meddai Iesu.

Saturday, July 11, 2026

chwa o wynt

"...... yn wir, chwa o wynt yw pob un byw, ac y mae'n mynd a dod fel cysgod; 
yn wir, ofer yw'r holl gyfoeth a bentyrra, ac ni ŵyr pwy fydd yn ei gasglu," 
meddai'r Brenin Dafydd.

"Gwyn ei fyd y sawl sy'n rhoi ei ymddiriedaeth yn yr ARGLWYDD," meddai hefyd.

Amen.

Friday, July 10, 2026

enw hebreig

Mae un o fy merched yn gweithio'n rhan amser mewn tŷ bwyta poblogaidd yn Sydney. Mae hi newydd ddarganfod mai dyn o Israel ydy un o'r cwsmeriaid rheolaidd. Pan glywodd ei henw hi, gofynnodd ydy hi'n gwybod ei ystyr yn ei iaith. Wrth gwrs! Y fi a ddewisodd yr enw oddi wrth lyfr enwau babis Hebreig. Cafodd y cwsmer ei synnu'n fawr pan glywodd ei hanes (yn naturiol,) ac roedd o'n edrych yn hynod o falch. 

Wednesday, July 8, 2026

pryder

Mae fy merch hynaf yn bwriadu dod i America gyda'i gŵr a'u babi mewn pythefnos, ac yn aros tan ddiwedd mis Awst. Mae ganddi ofn o bob math. Un ohonyn nhw ydy byddai ei babi'n crio'n angysuradwy yn yr awyren. Gofynnodd i'w theulu am weddïo. Atgoffais i hi'r adnod gyfarwydd hon:

"Bwriwch eich holl bryder arno ef, oherwydd y mae gofal ganddo amdanoch." 

Ydy, mae!

Monday, July 6, 2026

torri gwallt

Cafodd fy ŵyr pedwar mis oed dorri ei wallt am y tro cyntaf yn broffesiynol, gan driniwr wallt gwych, sef ei fodryb. Roedd yn aros heb gwyno tra oedd hi'n gweithio. Mae o'n edrych yn reit daclus rŵan.

Sunday, July 5, 2026

250 oed (ddoe)


Mae teyrnasoedd wedi dod a mynd; dim ond  "y genedl y mae'r ARGLWYDD yn Dduw iddi" yn llwyddo. Bydded i'w enw Ef ddyrchafu. 

Saturday, July 4, 2026

bendith babi

Ymwelodd fy merch hynaf, gyda'i theulu, â'i nain yn ei chartref henoed. Roedd ei nain wrth ei bodd yn gweld ei gor-ŵyr 4 mis oed. Roedd o'n gwenu a chwerthin ati drwy'r amser. Dwedodd fy merch bod ei nain yn ymddangos yn ei iawn bwyll bron yn sydyn. 

Wednesday, July 1, 2026

sut i fod yn fam

Dwedodd fy merch hynaf nad ydy hi'n gwybod sut i fod yn fam oherwydd mai ond plentyn ydy hi ei hun; er ei bod hi'n gwybod bod gan Dduw dasgau dros ei babi ac i hithau, mae hi'n reslo yn erbyn dymuniad i ffoi o'i bywyd presennol.

Dw i'n deall ei theimladau'n dda iawn. Dyna sut oeddwn i'n meddwl tra oeddwn i'n magu fy mhlant. Drwy Ei drugaredd, fodd bynnag, maen nhw i gyd wedi tyfu'n weision ffyddlon Duw.