Monday, November 3, 2025

rhrannu ei dir

Mae Jwda a Jerwsalem yn perthyn i Israel. Calon eu tir ydyn nhw lle mae cynifer o bethau a ysgrifennwyd yn y Beibl wedi digwydd. Dydy Duw ddim yn hapus gyda'r bobl sydd yn dwyn a rhannu'r tir a roddodd i bobl Israel, fel dwedodd yn yr Ysgrythur:

“Yn y dyddiau hynny ac ar yr amser hwnnw,
pan adferaf lwyddiant Jwda a Jerwsalem,
fe gasglaf yr holl genhedloedd
a'u dwyn i ddyffryn Jehosaffat,
a mynd i farn â hwy yno
ynglŷn â'm pobl a'm hetifeddiaeth, Israel,
am iddynt eu gwasgaru ymysg y cenhedloedd 
a rhannu fy nhir," Joel 3:1,2

Saturday, November 1, 2025

y peth pwysicaf

Er bod fy mam (103) yn Japan yn anhygoel o iach yn ei chorf, mae ei dementia yn gwaethygu’n gyflym yn ddiweddar. Mae'n ymddangos ei bod hi wedi anghofio llawer o bethau a phwy ydy pwy. Dw i'n gobeithio a gweddïo bob dydd y bydd hi'n cofio'r un peth pwysicaf, sef beth wnaeth Iesu Grist drosti.

Wednesday, October 29, 2025

cannwyll llygaid Duw

O'r pharo i Hitler ac Hamas, ceisiodd cynifer o bobl ddinistrio Israel. Methon nhw'n llwyr fodd bynnag, oherwydd y bydd unrhyw un sydd yn cyffwrdd Israel yn cyffwrdd cannwyll llygaid Duw. (Sechareia 2:8)

Dylai pawb sydd yn caru Duw garu beth bynnag a phwy bynnag mae o'n ei garu.

Tuesday, October 28, 2025

heddwch go iawn

"Dim ond yn arwynebol y maent wedi iacháu briw fy mhobl, gan ddweud, ‘Heddwch! Heddwch!’—ac nid oes heddwch." Jeremeia 6:14

Nid absenoldeb rhyfeloedd ydy heddwch. Heddwch y galon ydy heddwch go iawn. Ac na chewch chi hwn yn unman ond yn Iesu Grist.

"Yr wyf yn gadael i chwi dangnefedd; yr wyf yn rhoi i chwi fy nhangnefedd i fy hun. Nid fel y mae'r byd yn rhoi yr wyf fi'n rhoi i chwi." Ioan 14:27

Monday, October 27, 2025

dirnadaeth yw

"Nid gwybod y gwahaniaeth rhwng da a drwg ydy dirnadaeth. Mae gwybod y gwahaniaeth rhwng da a bron yn dda ydy o." C. H. Spurgeon



Wednesday, October 22, 2025

mae'r y Duw gyda ni

"Pan fyddi'n mynd trwy'r dyfroedd, byddaf gyda thi." Eseia 43:2

Hon ydy un o'r adnodau a roddodd nerth i mi fwrw ymlaen tro ar ôl tro. Does posib osgoi problemau ac anawsterau tra eich bod chi'n byw, ond addawodd y Duw fyddai fo gyda ni drwy bopeth.

Tuesday, October 21, 2025

yr unig ffordd i gael eich achub

“Os cyffesi Iesu yn Arglwydd â'th enau, a chredu yn dy galon fod Duw wedi ei gyfodi ef oddi wrth y meirw, cei dy achub." Rhufeiniaid 10:9

Yr unig ffordd, a'r gwirionedd a'r bywyd ydy Iesu.