Tuesday, November 11, 2025

diwrnod y cyn-filwyr o safbwynt cyn-filwr


"I beth roddodd y cannoedd o fy ffrindiau a phawb arall eu bywydau? Y wlad heddiw… mae'n ddrwg gen i, nid oedd yr aberth yn werth y canlyniad." Alec Penstone, cyn-filwr, y Llynges Frenhinol


Monday, November 10, 2025

yn barod unrhyw bryd

"Y mae'n gyfyng arnaf o'r ddeutu; y mae arnaf awydd ymadael a bod gyda Crist, gan fod hynny'n llawer iawn gwell; ond y mae aros yn fy nghnawd yn fwy angenrheidiol er eich mwyn chwi." Philipiaid 1:23, 24

Dw i'n cytuno â Paul yn llwyr. Y gwahaniaeth, fodd bynnag ydy nad oes cyfyng arna' i fel fo. Mae'r plant i gyd wedi gadael cartref ac mae pob un ohonyn nhw'n rhodio'n ffyddlon gydag Iesu Grist. Dw i'n barod i ymadael y byd yma a bod gyda fy Arglwydd unrhyw bryd.

Saturday, November 8, 2025

cyfrif ein dyddiau

Mae'n anodd credu bod mis wedi mynd heibio unwaith eto. Trodd Lleuad Afanc hynod o ddisglair yn lleuad wen yn yr awyr las. 

"Deng mlynedd a thrigain yw blynyddoedd ein heinioes, 
neu efallai bedwar ugain trwy gryfder,
ond y mae eu hyd yn faich ac yn flinder;
ânt heibio yn fuan, ac ehedwn ymaith.
Pwy sy'n gwybod grym dy ddicter,
a'th ddigofaint, fel y rhai sy'n dy ofni?
Felly dysg ni i gyfrif ein dyddiau,
inni gael calon ddoeth." Salmau 90:10 - 12

Wednesday, November 5, 2025

rhydd mewn gwirionedd

"Dw i erioed wedi bod yn gaethwas i neb," meddwch chi. 
Ond dwedodd Iesu, "mae pob un sy'n cyflawni pechod yn gaethwas i bechod." Ioan 8:34

Yna, efallai y byddwch chi'n gofyn, "sut alla i fod yn rhydd felly?"
Dyma'r ateb gan Iesu: “Os arhoswch chwi yn fy ngair i.... cewch wybod y gwirionedd, a bydd y gwirionedd yn eich rhyddhau." Ioan 8:31
"Os yw'r Mab (Iesu) yn eich rhyddhau chwi, byddwch yn rhydd mewn gwirionedd." Ioan 8:36

Tuesday, November 4, 2025

cuddio eu hunain fel palesteiniaid

"Mae'r Cristnogion yn Nigeria yn cuddio eu hunain fel Palesteiniaid fel y bydd pobl yn bwrw sylw ar yr hil-ladd yn eu herbyn."

 Yn llygad ei le unwaith eto, y Wenynen. Nid dim ond yn Nigeria, ond mae miliynau o Gristnogion dros y byd yn cael eu llofruddio a'u herlid yn erchyll bob dydd. Ac eto dydy'r prif gyfryngau a dylanwadwyr cyfryngau cymdeithasol byth yn rhoi sylw arnyn nhw. Efallai mai syniad da i ddefnyddio i'r dioddefwyr i gyd wedi'r cwbl.

Monday, November 3, 2025

rhrannu ei dir

Mae Jwda a Jerwsalem yn perthyn i Israel. Calon eu tir ydyn nhw lle mae cynifer o bethau a ysgrifennwyd yn y Beibl wedi digwydd. Dydy Duw ddim yn hapus gyda'r bobl sydd yn dwyn a rhannu'r tir a roddodd i bobl Israel, fel dwedodd yn yr Ysgrythur:

“Yn y dyddiau hynny ac ar yr amser hwnnw,
pan adferaf lwyddiant Jwda a Jerwsalem,
fe gasglaf yr holl genhedloedd
a'u dwyn i ddyffryn Jehosaffat,
a mynd i farn â hwy yno
ynglŷn â'm pobl a'm hetifeddiaeth, Israel,
am iddynt eu gwasgaru ymysg y cenhedloedd 
a rhannu fy nhir," Joel 3:1,2

Saturday, November 1, 2025

y peth pwysicaf

Er bod fy mam (103) yn Japan yn anhygoel o iach yn ei chorf, mae ei dementia yn gwaethygu’n gyflym yn ddiweddar. Mae'n ymddangos ei bod hi wedi anghofio llawer o bethau a phwy ydy pwy. Dw i'n gobeithio a gweddïo bob dydd y bydd hi'n cofio'r un peth pwysicaf, sef beth wnaeth Iesu Grist drosti.