Sunday, May 31, 2009

ffefryn newydd

Mae gen i ffefrynnau ymysg y siaradrwyr Cymraeg. Mae'r rhan fwya ohonyn nhw'n dod o'r gogledd wrth reswm. Des i ar draws ffefryn newydd tra oeddwn i'n gwrando ar y Post Cyntaf ddydd Sadwrn. Barry Thomas, dirprwy olygydd Golwg ydy o. Roedd o'n siarad am bynciau amrywiol o Susan Boyle i ffliw moch. Dw i'n gwirioni ar ei acen gref ogleddol! Os oes awydd arnoch chi ei glywed o, bydd o'n cychwyn tua 17.30 o'r dechrau.

Saturday, May 30, 2009

dau o saudi arabia

Yn y brifysgol leol yma mae yna ryw dri cant o fyfyrwyr o wledydd amrywiol y byd. A chaeson ni gyfle i wahodd dau o Saudi Arabia i swper neithiwr. Hend a'i brawd oedden nhw. Hogan siriol a chlên ydy Hend, ac dydy hi ddim yn petruso mynegi ei barn ac mae hi'n awyddus i ddysgu pethau newydd. Mae hi a'i brawd ar gwrs Saesneg ail-iath ar hyn o bryd cyn mynd i brifysgol arall i astudio.  

Dw i ddim yn nabod neb o'r wlad yna ac dôn i ddim yn gwybod beth i'w ddisgwyl. Ond mae'n dda gwybod bod pobl ydy pobl er gwaethaf gwahaniaethau ethnig neu grefyddol. 

Roedd Hend wedi rhyfeddu mod i'n dysgu iaith mor brin a gofyn imi ddweud rhywbeth yn Gymraeg. Dwedes i, "Bore da. Dw i'n dysgu Cymraeg ers pum mlynedd." Ceisies i ddysgu brawddeg neu ddwy yn yr Arabeg ond na, roedd yn rhy anodd!. Diddorol clywed mai mama ydy mam ac baba ydy tad. Yn y Japaneg, mama ydy mam hefyd ond nain ydy baba!

Caethon ni i gyd amser gwych. (Roedd y plant yn dangos y moch cwta iddi.) Wna i ddim rhoi llun ohonyn nhw i barchu eu harfer. Ond coeliwch fi. Mae hi'n glws! Ac mae hi wrth ei bodd efo ffilm Pride and Prejudice gan BBC!

Friday, May 29, 2009

hwyl a sbri 2009



Yn ôl yr arfer, aeth fy ngwr â'r plant a dwy ffrind i Afon Ilinois heddiw. Aethon nhw i lawr yr afon mewn rhafft a chanw am ddwy awr. Roedd hi'n braf ac roedd yna ddigon o ddwr yn yr afon ar ôl y cyfnod o law. Doedden nhw ddim eisiau i'r siwrnau orffen fel y ceision nhw rwyfo i fynny'r afon hyd yn oed! 

Tra oedden nhw'n cael hwyl a sbri, roeddwn i'n hollol fodlon aros adref ar fy mhen fy hun a chael amser gwych. Ond dw i wedi blino rwan wedi tacluso'r ty, mynd i siopa a choginio swper arbennig. Do, caethon ni bobl ddieithr heno, nid myfyrwyr o Japan ond dau o Saudi Arabia!

Thursday, May 28, 2009

eco'r wyddfa


Mae gen i gopi o rifyn Mawrth Eco'r Wyddfa yn fy llaw, diolch i Angela o Canada sy'n digwydd dod o Lanberis yn wreiddiol a wnaeth ei yrru fo ata i'n ddiweddar.

Bydda i'n darllen erthyglau papurau bro'r gogledd ar y we'n aml ond dyma'r tro cynta i mi gael fersiwn papur Eco. Dw i wedi bod yn pori drwyddo'n ddiolchgar. Mae popeth yn ddiddorol gan gynnwys yr hysbysebion - "Rhowch gyfle i fusnesau Cymreig lleol ddangos eu gwerth yn hytrach na chwmniau dyfod ac archfarchnadoedd Seisnig!" Sgrifennes i i lawr enwau rhai pobl yn gobeithio y cawn i gyfleoedd i'w cyfarfod cyn hir.

Tuesday, May 26, 2009

'enchilada' i lysieuwyr


'Enchilada' ydy un o'n hoff brydau o fwyd ni. Bydda i'n defnyddio cig eidion neu gyw iâr fel arfer ond roeddwn i'n ceisio gwneud un heb gig neithiwr wrth feddwl am rai o fy ffrindiau da sy ddim yn bwyta cig. Dyma'r cynhwysion:

tofu
madarch
nionyn
caws Feta a Cheddar
powdr garlleg, tarmeric, pupur, halen
saws 'enchilada'
'tortillas'

Roedd o'n weddol dda ond dw i'n rhyw feddwl fod o angen perlysiau cryfach achos nad oes gan tofu neu'r llysiau flas cryf. Hwyrach y gwna i arbrofi efo garlleg ffres a chaws arall.

Monday, May 25, 2009

lucky



Dyma Lucky. Mae hi'n byw ar draws y stryd. Basai fy merch 15 oed yn gofalu amdani hi weithiau pan fasai'r perchenog i ffwrdd. Cath gyfeillgar ydy hi. Yn aml iawn baswn i'n gweld hi'n eistedd ar waelod y grisiau blaen. Y bore ma roedd hi wrth y drws blaen. Pan agores i fo, wnaeth hi ddod ata i a gadael imi dynnu lluniau ohoni hi hyd yn oed. Dwedes i, "bore da. Sut wyt ti?" ac fy ateb wnaeth hi!

Sunday, May 24, 2009

gweini coffi



Mae Evelyn ar ei gwyliau'n ymweld ei pherthnasau ar draws UDA. Gofynodd hi imi weini yn ei lle am ddau fis. A dyma fi'n gweini coffi, llefrith, sydd oren a bisgedi efo Treda, y ddynes arall yn ystod yr amser coffi rhwng yr ysgol Sul a'r oeddfa. Mae'n hwyl a dweud y gwir gweini a chyfarch y bobl wrth iddyn nhw ddod at fwrdd y gegin.