Thursday, August 31, 2017

gwirod eirin

Erthygl newydd gan fy merch - ar wirod eirin. Gwirod poblogaidd yn Japan ydy o, ac mae nifer o bobl yn mwynhau ei wneud gartref. Roedd fy mam yn arfer paratoi jwg ddiwedd mis Mai. Mae'n braf i yfed wrth ychwanegu dŵr a rhew. Mae'n gwneud lles i chi hefyd! Doedd gen i ddim diddordeb dysgu'r grefft pan oedd cyfle gen i yn Japan, ond wedi darllen yr erthygl, byddwn i'n hoffi ei wneud o. Yn anffodus, dydy'r cynhwysion ddim ar gael yma!

Wednesday, August 30, 2017

mae pawb yn bihafio

Daeth miliwn o bobl i weld y dawnsio. Er gwaethaf y torf enfawr, doedd dim anhrefn. Dim ond yn Japan.

Tuesday, August 29, 2017

awa-odori

Aeth fy nwy ferch yn Japan i weld Awa-odori (dawnsio gwerin) dros y penwythnos ynghyd â'r filiwn o bobl eraill. Roedd y merched yn medru sicrhau man gwych i dynnu lluniau hyfryd. Roedd yna lawer o grwpiau dawnsio yn dangos dawnsiau unigryw pob un ohonyn nhw. Mae'r egni'n anhygoel. Un o'r traddodiadau hafaidd poblogaidd yn Japan. 

Monday, August 28, 2017

drawer sbeisys

Dw i'n trefnu'r tŷ ychydig ar y tro bob dydd. (Mae gen i ddigon o amser i'w wneud ar ôl i'r plentyn ifancaf adael adref.) Y cyflawniad diweddaraf oedd y drôr sbeisys hwn. Roedd y sbeisys amrywiol yn arfer rholio ym mhob man yn y drôr. Yna, gwelais fideo ar sut trefnu pethau (yn Ffrangeg os cofia' i'n iawn.) Roedd dynes yno'n trefnu ei drôr wrth ddefnyddio rhannwr a brynodd hi. Dyma greu un tebyg o hen galendr a blwch grawnfwyd. Mae'r sbeisys yn aros yn eu lle'n dwt. Braidd yn falch ohono fo ydw i!

Saturday, August 26, 2017

tomatos coch

Es i farchnad ffermwyr y bore 'ma am y tro cyntaf ers blynyddoedd. Cynhalir dan do enfawr bellach, ac mae yna fand hyd yn oed a oedd yn creu awyrgylch dymunol. Wedi rhoi cip ar bob stondin, dewisais un a oedd yn gwerthu maint lleiaf (i fi a'r gŵr.)  Prynais bwys o domatos coch coch. Gwerthir gwin lleol hefyd, ond yn anffodus doedd gen i ddim digon o bres parod. Y tro nesa efallai!

Friday, August 25, 2017

y prosiect diweddaraf

Mae'r gŵr yn dal wrthi'n rhoi trefn ar y tŷ ers ymddeol, a dw i wrth fy modd wrth gwrs! Y prosiect diweddaraf oedd - ail-blannodd y poinsettia druan i mewn i bot blodyn mwy. Mae'r planhigyn eisoes yn edrych yn hapus. (Cafodd ei achub gan fy merch pan oedd ei bos ar fin ei daflu i ffwrdd ar ôl tymor Nadolig y llynedd.)

Thursday, August 24, 2017

erthygl arall fy merch

Cafodd erthygl arall fy merch newydd ei chyhoeddi. Ysgrifennodd am ei hymweliad â Gajoen, gwesty/tŷ bwyta cain yn Tokyo. Roedd hi'n cynnwys profiad ei nain a oedd yn gweithio yno fel gweinyddes cyn yr Ail Ryfel Byd. Rhyfeddol iawn bod fy mam yn dal i fyw a sionc yn ei hysbryd. Fu farw ei ffrindiau i gyd a oedd yn gweithio efo hi. Rhaid i Gajoen ddod a'i chyfweld i glywed ei hanes anhygoel dri chwarter canrif yn ôl!
(fy mam ar y dde yng ngardd Gajoen)