Dw i'n hoffi gwrando ar Radio Cymru bob dydd er mod i ddim yn deall popeth. Weithiau dw i ddim yn deall dim byd ar wahan i rai geiriau yma ac acw. Mae'n dibynnu ar raglenni. Dw i'n deall newyddion mwy na rhaglenni eraill. Dyma'r rhestr raglenni dw i'n gwrado arnyn nhw:
Post Cyntaf
Taro'r Post
Bwrw Golwg
Dal i Gredu
Oedfa'r Bore
Clasuron
Beti a'i Phobol
Manylu
Papur a Phaned
John ac Alun
Fy hoff gyflwynydd ydy Dyfan Tudur. Dw i wrth fy modd yn gwrando ar ei Gymraeg. Ac mae 'na ohefydd dw i'n chlywed o dro i dro. O, mae ei hacen ogleddol mor ddeniadol. Dw i isio siarad yn union fel hi. Dw i'n meddwl mai Carol Owen ydy'r enw, ond dw i ddim yn hollol sicr. Roedd yn gofyn i hogan fach pam oedd hi'n hoffi stori genedigaeth Iesu ym Mwrw Golwg.
2 comments:
Efallai taw Karen Owen yw enw'r cyflwynydd - mae'n dod o ddyffryn Nantlle. Roedd hi'n olygydd y cylchgrawn 'Golwg' a nawr mae'n gweithio yn adran grefyddol y BBC ac felly byddai'n gwneud synnwyr ei bod hi ar Fwrw golwg. Mae hi hefyd yn fardd ac mae wedi cyhoeddi cyfrol, Yn fy lle.
Diolch yn fawr am y wybodaeth, Dogfael!
Post a Comment