Wednesday, February 20, 2008

s4c

Dw i newydd ddarganfod mod i'n medru gweld rhai o raglenni S4C ar y we. Roedd hi'n cymryd ofnadwy o hir (cyhyd â'r rhaglen) lawrlwytho, ond mi fedrwn i weld tri chwarter o Rownd a Rownd p'nawn ma. Mi stopiodd hi wedyn. Rhaid i mi gyfadde mod i ddim wedi dallt y rhan fwya o'r sgyrsiau. Mae arna i isio is-deitlau Cymraeg! Dydy o ddim ar gael i'r bobl tu allan i Gymru gwaetha'r modd. (Rhywbeth i wneud â hawlfraint.) Gobeithio ca i weld rhaglenni eraill hefyd. Mi geisia i yfory.

2 comments:

Tom Parsons said...

Dw i newydd wedi gwylio chwech o benodau Rownd a Rownd wythnos diwetha pan o'n i'n garte cael sawl diwrnod i ffwrdd tro o'n i'n sal. Roedd yn wych i wylio rhaglen Cymraeg ag ymarfer fy medr gwrando!
Fel ti, oni bai is-deitlau Cymraeg fyddwn i ddim yn dallt rhan fwyaf y sgwrsia.

Emma Reese said...

O, diolch am ddweud hynny, Tom. Dw i'n teimlo'n well. :)