Wednesday, March 26, 2008

cofeb madog (dolen yma)

A pham lai? Dim ond un llyfr darllenes i am y Tywysog Madog a'i hanes (Brave His Soul gan Ellen Pugh) ond dw i'n cefnogi'r damcaniaeth ma. Mae'n hollol ddifyr a chyffrous ac yn gredadwy yn fy marn i. Er tasai fo ddim yn wir, mi fasai'n codi proffil Cymru yn UDA o leia.

Mae 'na ddeiseb ar lein i achub Cofeb Madog. Dowch yn llu!

3 comments:

asuka said...

os oedd 'na gofeb, mae'n dreuni na chafodd hi aros yna yn doedd?

hmmm. rwyf fi am ffeindio mas pa dywysog cymreig oedd y cynta' i hwylio o ewrop i *awstralia*. mae genny' ryw syniad taw un o'r de oedd e (o achos yr enw "de cymru newydd" t'weld). perthynas i'r arglwydd rhys falle! :)

Emma Reese said...

Fel dw i'n dweud ym aml, mae'r Cymry wedi bod ym mhob man yn y byd ar wahan i Oklahoma. :)

Gwybedyn said...

llyfr da am yr hanes yw 'Madog: The Making of a Myth' gan Gwyn A. Williams. Mae ei 'In Search of Beulah Land' hefyd yn trin yr un hanes o berspectif ychydig yn wahanol.

Llyfr(au) a ysgrifennwyd yn wych, yn fy marn i - mae angerdd GAW yn rhyfeddol. 'When Was Wales' wrth gwrs, yw'r llyfr enwocaf ganddo, a hwnnw'n llawn afiaith hefyd.

Mae'n wych, y ffordd y daeth y 'myth' a'r 'chwedl' yma i gymryd rhan mor real mewn hanes 'go iawn' America ac Ewrop.