Saturday, March 15, 2008

priodas



Mae'n hwyr (11:45 pm) ond rhaid i mi sgwennu am y briodas cyn mynd i'r gwely. Roedd hi'n syml ac yn ddymunol. Mi ddaeth teulu'r briodferch o Japan ar gyfer y diwrnod mawr.

Roedd 'na barti mewn caffi yn y dre wedyn. Mi gaethon ni gacen, sushi a ffynnon siocled (y llun) ayyb. Rôn i'n cynnig te gwyrdd wrth y bwrdd. Dw i wedi blino'n llwyr.

Gyda llaw, llongyfarchiadau i dîm Cymru!

3 comments:

Corndolly said...

O! Emma, rwyt ti'n greulon iawn. Ffynnon Siocled !! ymmmmmmmm

Gwybedyn said...

llongyfarchiadau'n wir - roedd y byd i gyd fel ffynnon siocled am un dydd Sadwrn!

Emma Reese said...

Diolch i corndolly a szczeb. A dweud y gwir, rôn i'n cynnyg te gwyrdd trwy'r amser yn y parti. Nes i ddim bwyta dim byd ond un fefusen efo'r siocled.