Monday, March 31, 2008

glaw!

Dw i erioed wedi gweld cymaint o law! Mi ddechreuodd fwrw'n sydyn p'nawn ma. Roedd rhaid i mi fynd i gasglu'r plant pan oedd y storm yn ei hanterth. Fedrwn i ddim gweld y ffyrdd yn iawn oedd fel afonydd. Ond mae hi wedi atal bellach ac dw i'n gweld yr awyr glas hyd yn oed. Mi gaeth fy nghar ei olchi am ddim, rhaid i mi ddweud. : )

9 comments:

asuka said...

swnio'n ddifrifol!
hei, rwy newydd sylweddoli rhywbeth wrth ddarllen am dy gar di: os wy'n mynd i fyw yn nghanol america bydd rhaid i finnau ddysgu gyrru!

Emma Reese said...

Bydd heb os! Ond mae'n hawdd pasio prawf gyrru yn UDA.

asuka said...

hei, tra o't ti ym mangor dros yr haf, lle ro't ti'n aros a lle celet ti wersi? mae'n debyg 'mod i'n cerdded heibio'r lleoedd beunydd!

Emma Reese said...

Rôn i'n aros yn Ffriddoedd (ar y 7ed llawr.) Yn Safle Normal oedd yr ysgol haf. Mi es i i'r Iard Cychod ger y Pier am noson gymdeithasu a cherdded yn ôl i Ffriddoedd. Roedd fy nhraed yn brifo! Mi es i i Roman Camp hefyd.

Beth amdanat ti? Lle wyt ti'n aros?

asuka said...

rwy'n gyfarwydd a'r safle ffriddoedd ac wedi mynd heibio'r safle normal ar y bws! rwyf finnau'n aros mewn ty^ tu ôl i'r brif stryd, jest oddi ar gaellepa (stryd sydd ag enw drwg iawn yn ôl pob sôn!). smo ni'n cael lot o heulwen gwaetha'r modd - ochor anghywir y cwm!

Carys said...

WOW!
swnio'n...
WLYB IAWN!!!!!!!!!!!!

Carys said...

WWWWOOOOWWWW!

Carys said...

WOW!
DYNA GYD DWI'N GALLU DWEUD!

Carys said...

O NA!
MAE'N GLAWIO LOT NAWR!!!!!!!!