Mae'n cenhadon ni yng Ngwlad Belg yn ymweld â'r eglwys ar hyd o bryd a chaethwn ni bot lwc arbennig efo nhw. Rôn ni i fynd â bwydydd o Ewrop. Caethon ni ddewis unrhyw wlad. Dyma fy nghyfle!
Mi wnes i Fara Brith a Chawl Cennin efo tatws, bacwn ac hufen. Paratoes i nodau dwyieithog a dwy faner fach Cymru hefyd. Dw i mor falch mod i'n dod â phot gwag yn ôl adre. Ar wahân i spageti a pitsa cyffredin, roedd 'na peli cig Norwyaidd, cawl Minestron, selsig efo 'sour kraut' heb sôn am gacen siocled Almaenaidd i ti, Corndolly!
Gyda llaw, mae'r ddau blentyn ifanc y cenhadon yn mynd i'r ysgol leol ac yn hollol rugl yn y Fflemeg wedi byw yng Ngwlad Belg efo'u rhieni am bedair blynedd. Rhaid i'r rhieni ofyn i'w plant am gymorth ieithyddol!
2 comments:
mmmm. mae'n edrych yn ffeind! rhyfedd faint yn neisiach yw bara brith da nag unrhyw fath arall o deisen ffrwyth yn nhŷb i.
Cytuno'n llwyr.
Post a Comment