Mae popeth yn edrych yn ffres y tu allan, o flodau o bob math i'r gwyrddlesni sy'n disgleirio yn yr haul.
Ond yn anffodus, tymor alergedd ydy o hefyd unwaith eto. Mae blodau'r derw yn nesu at ei hanterth yn bwrw eu paill ym mhob man. Dw i wedi bod yn defnyddio chwistrell trwyn yn ystod y tymor alergedd ac mae o'n gweithio'n iawn. Ond ceisia i aros tu mewn cymaint ag y medra i hefyd. Bydd yn wythnosau cyn imi gael mynd am dro.
2 comments:
Wyt ti dal i gadw heini y tu mewn i'r tŷ y flwyddyn hon, neu wyt ti'n gallu mynd allan rŵan gan dy fod di'n defnyddio chwistrell trwyn?
Dw i'n aros tu mewn rhag ofn.
Post a Comment