Beth ga i wneud? Sgwennu Gymraeg at ffrind neu ddau, ymarfer corff wrth wrando ar Radio Cymru, gwneud gwers 23 Saysomethinginwelsh unwaith eto, dal ati ddarllen Rhannu'r Ty gan Eigra Roberts... (Mae ei Chymraeg yn anodd o lawer i mi gyda llaw, ond mae'n bwnc diddorol, sef y streic fawr yn chwarel Penrhyn rhwng 1900 a 1903. Dw i'n bwriadu gorffen y nofel cyn mynd i Lanberis.) Ac wrth gwrs, sgwennu fy mlog!
3 comments:
Mi brynais i 'Rhannu'r Ty' yn yr haf (yng Nghastell Penrhyn digwydd bod!) gan fy mod i'n awyddus i ddysgu am y streic fawr, ond ffindiais i hi'n her go iawn i gael mewn iddi hi fel petai. Wedi dweud hynny, wna i drio unwaith 'to rhywbryd yn y dyfodol mae'n siwr, mor ddiddorol yw'r pwnc, a mor fawr oedd y bwlch rhwng y rhai cefnog adeg hynny a'r rhai oedd yn gwneud y gwaith peryglus a galed
Ydy, mae'n bwnc diddorol. Dw i'n dal i'w darllen o dipyn i beth. Wyt ti wedi clywed, "eistedd yn ei gwman"? Mi ôn i'n meddwl mai rhyw fath o gadair oedd "cwman." Ond, "haunched up" ydy ystyr y cymal. (Diolch i Linda am egluro!) Gobeithio y gwnei di drio eto.
Diolch am hynny Emma, fydda i'n barod rwan pan dwi'n dod o hyd i'r dwediaid. Ni faswn i wedi cael clem a dweud y gwir!
Post a Comment